- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi a chyhoeddi datganiad (“datganiad o’r personau a enwebwyd”) yn dangos—
(a)y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, a
(b)unrhyw bersonau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.
(2) Rhaid i’r datganiad ddangos—
(a)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) y personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,
(b)yr wybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), ac
(c)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu.
(3) Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd â’r papur enwebu—
(a)pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7);
(b)pan nad yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.
(4) Rhaid i’r datganiad ddangos y personau sy’n dal wedi eu henwebu yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu cyfenwau, ac os oes gan ddau neu ragor ohonynt yr un cyfenwau, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.
(5) Mae rheol 14 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 15 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r personau a enwebwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: