- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
31.—(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—
(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,
(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,
(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a
(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.
(2) Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.
(3) Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.
(4) Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—
(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,
(b)y ward etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,
(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros y ward etholiadol honno,
(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,
(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac
(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.
(5) Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.
(6) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—
(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn Atodiad 5 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(d), a
(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.
(7) Yn y rheol hon—
(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y ward etholiadol dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;
(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno(1)).
Diwygiwyd adran 202(1) er mwyn mewnosod diffiniad o “qualifying address” gan baragraff 22 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: