- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
56.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—
(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;
(b)papur pleidleisio y rhoddwyd pleidleisiau arno dros fwy o ymgeiswyr nag y mae gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio drostynt;
(c)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;
(d)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.
(2) Pan fo gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, nid yw papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd o ran unrhyw bleidlais nad oes ansicrwydd yn codi yn ei chylch a rhaid cyfrif y bleidlais honno.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—
(a)mewn man heblaw’r man priodol,
(b)heblaw drwy gyfrwng croes, neu
(c)drwy fwy nag un marc.
(4) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym (naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno), oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—
(a)os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,
(b)os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn adnabod y pleidleisiwr, ac
(c)os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif;
(b)arnodi’r geiriau “gwrthodwyd yn rhannol” ar unrhyw bapur pleidleisio y cyfrifir pleidlais arno yn unol â pharagraff (2) a nodi pa bleidlais neu bleidleisiau a gyfrifwyd.
(6) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a’r nifer a wrthodwyd yn rhannol.
(8) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd neu a wrthodwyd yn rhannol o dan bob un o’r penawdau yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: