- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
66.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd a’r papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan reol 65(2).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—
(a)y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;
(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 51(5);
(c)y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a baratowyd o dan reol 60(7);
(d)y datganiadau o ganlyniad dilysiad y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 55(6);
(e)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr post a’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy.
(3) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol hefyd, rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—
(a)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—
(i)y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);
(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);
(iii)y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion (gweler rheol 45);
(iv)y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);
(v)y rhestrau a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais);
(b)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;
(c)y pecynnau sy’n cynnwys copïau a farciwyd o gofnodion cofrestru a rhestrau dirprwyon;
(d)y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: