- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
71.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, mewn etholiad lle ceir gornest, wedi ei fodloni cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd yn y papurau pleidleisio wedi marw.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddiddymu hysbysiad y bleidlais neu, os yw’r pleidleisio wedi dechrau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfarwyddo rhoi’r gorau i’r bleidlais ac ni chaniateir dyroddi rhagor o bapurau pleidleisio.
(3) Nid yw diddymu’r bleidlais neu gyfarwyddyd i roi’r gorau iddi yn effeithio ar y bleidlais mewn unrhyw etholiad perthnasol.
(4) Pan fo’r bleidlais wedi ei chau ym mhob etholiad perthnasol, rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd o dan reol 51 pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais yn etholiad y brif ardal, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu baratoi cyfriflen papurau pleidleisio.
(5) Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan Ran 4, ac eithrio—
(a)na chaniateir i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif unrhyw bapurau pleidleisio na phleidleisiau sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi, a
(b)nad oes angen dilysu unrhyw gyfriflen papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r bleidlais honno.
(6) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)derbyn unrhyw bapurau pleidleisio neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi y caniateir eu danfon gan neu ar ran y swyddog canlyniadau cydlynol, ond
(b)peidio â bwrw ymlaen fel arall ag unrhyw gam o dan Ran 4 sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd yr un camau ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan reolau 65 a 66 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau (pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais), ac eithrio—
(a)bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio (p’un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio), a
(b)nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.
(8) Mae darpariaethau rheolau 67 i 69 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â phleidlais y rhoddwyd y gorau iddi oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—
(a)bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
(b)y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 67(2) neu (3) er mwyn cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio yn unig.
(9) O ran yr hyn sy’n digwydd ar ôl i hysbysiad o bleidlais gael ei ddiddymu neu ar ôl rhoi’r gorau i bleidlais, gweler adran 39 o Ddeddf 1983.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: