- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Rhaid i’r ymgymerwr dalu pob cost, tâl, iawndal a thraul resymol i Network Rail na ddarperir ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn y Rhan hon y gellir ei (h)achosi i Network Rail neu y gall Network Rail yn rhesymol fynd iddo neu iddi—
(a)oherwydd adeiladu neu gynnal a chadw gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig; neu
(b)oherwydd unrhyw weithred neu anwaith gan yr ymgymerwr neu gan unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwr neu eraill tra byddant wedi eu penodi i ymgymryd â gwaith penodedig; a rhaid i’r ymgymerwr indemnio Network Rail a pharhau i indemnio Network Rail rhag ac yn erbyn pob hawliad ac archeb am dâl sy’n codi o ganlyniad i waith penodedig neu mewn cysylltiad â gwaith penodedig neu unrhyw gyfryw fethiant, weithred neu anwaith; ac nid yw’r ffaith y gall unrhyw weithred fod wedi ei chyflawni gan Network Rail ar ran yr ymgymerwr neu yn unol â phlaniau a gymeradwywyd gan y peiriannydd neu yn unol ag unrhyw ofyniad gan y peiriannydd neu o dan oruchwyliaeth y peiriannydd (os y’i cyflawnwyd heb esgeuluster ar ran Network Rail neu unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau) yn esgusodi’r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd o dan y Rhan hon.
(2) Rhaid i Network Rail roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw gyfryw hawliad neu archeb am dâl, ac ni chaniateir setlo’r cyfryw hawliad neu archeb am dâl na chyfaddawdu yn ei gylch neu yn ei chylch heb gydsyniad yr ymgymerwr ymlaen llaw.
(3) Rhaid i’r symiau sy’n daladwy gan yr ymgymerwr o dan is-baragraff (1) gynnwys swm sy’n hafal i’r costau perthnasol.
(4) Yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gytundeb rhwng Network Rail a gweithredwr trenau o ran amseriad neu ddull talu’r costau perthnasol mewn cysylltiad â’r gweithredwr trenau hwnnw, rhaid i Network Rail dalu’n brydlon swm unrhyw symiau y mae Network Rail yn eu derbyn o dan is-baragraff (1) sy’n ymwneud â chostau perthnasol y gweithredwr trenau hwnnw i bob gweithredwr trenau.
(5) Mae’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (3) i dalu’r costau perthnasol i Network Rail, os bydd diffyg, yn uniongyrchol orfodadwy gan unrhyw weithredwr trenau dan sylw i’r graddau y byddai’r cyfryw symiau yn daladwy i’r gweithredwr hwnnw yn unol ag is-baragraff (4).
(6) Yn y paragraff hwn—
ystyr “costau perthnasol” yw’r costau, y colledion uniongyrchol a’r treuliau (gan gynnwys colli refeniw) y mae pob gweithredwr trenau yn mynd iddynt o ganlyniad i unrhyw gyfyngiad ar y defnydd o rwydwaith rheilffyrdd Network Rail o ganlyniad i adeiladu, cynnal a chadw neu fethiant gwaith penodedig, neu unrhyw gyfryw weithred neu anwaith ag a grybwyllir yn is-baragraff (1);
ystyr “gweithredwr trenau” yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu fel gweithredwr trên drwy drwydded o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: