- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn dechrau ar unrhyw weithfeydd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 5(2) sydd wrth ymyl unrhyw gyfarpar nad yw’r ymgymerwr wedi’i gwneud yn ofynnol ei dynnu ymaith o dan yr is-baragraff hwnnw, neu a fydd yn effeithio neu a all effeithio ar y cyfryw gyfarpar, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw blan, trawslun a disgrifiad o’r gweithfeydd i’w cwblhau.
(2) Rhaid i’r gweithfeydd hynny gael eu cwblhau yn unol â’r cynllun, y trawslun a’r disgrifiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (1) yn unig ac yn unol â’r cyfryw ofynion rhesymol ag a wneir yn unol ag is-baragraff (3) gan yr ymgymerwr cyfleustod i newid neu fel arall ddiogelu’r cyfarpar, neu i sicrhau mynediad iddo; ac mae gan yr ymgymerwr cyfleustod yr hawl i wylio ac archwilio’r gweithfeydd sy’n cael eu cwblhau.
(3) Rhaid i unrhyw ofynion a wneir gan ymgymerwr cyfleustod o dan is-baragraff (2) gael eu gwneud o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyflwynwyd plan, trawslun a disgrifiad o dan is-baragraff (1) iddo.
(4) Os yw ymgymerwr cyfleustod, yn unol ag is-baragraff (3) ac o ganlyniad i’r gweithfeydd a gynigir gan yr ymgymerwr, yn ei gwneud yn ofynnol yn rhesymol dynnu ymaith unrhyw gyfarpar ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r ymgymerwr o’r gofyniad hwnnw, mae paragraffau 1 i 6 yn gymwys fel pe bai’r ymgymerwr wedi’i gwneud yn ofynnol tynnu ymaith y cyfarpar o dan baragraff 5(2).
(5) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag cyflwyno ar unrhyw adeg neu o bryd i’w gilydd, ond nid mewn unrhyw achos lai na 28 diwrnod cyn dechrau ar unrhyw weithfeydd, blan, trawslun a disgrifiad newydd yn lle’r plan, y trawslun a’r disgrifiad a gyflwynwyd yn flaenorol, ac wedi gwneud hynny mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys i’r plan, y trawslun a’r disgrifiad newydd ac mewn cysylltiad â hwy.
(6) Nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gydymffurfio ag is-baragraff (1) mewn achos brys, ond yn yr achos hwnnw, rhaid iddo hysbysu’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhoi plan, trawslun a disgrifiad o’r gweithfeydd hynny iddo cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhaid iddo gydymffurfio ag is-baragraff (2) i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: