Search Legislation

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 861 (Cy. 200)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

Gwnaed

15 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

1 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau yn adran 97(1) a (2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 98(3)(c)(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.

RHAN 2Diwygiadau i Ddeddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Llywodraeth Leol 1974

2.—(1Mae Deddf Llywodraeth Leol 1974(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 5, ym mharagraff 5(2)(b)(4), ar ôl “special educational needs (within the meaning given by section 579(1) of the Education Act 1996)” mewnosoder “or additional learning needs (within the meaning given by section 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018)”.

Deddf Addysg 1997

3.—(1Mae Deddf Addysg 1997(5) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 32(6)(a)(6), yn lle “special educational needs (as defined in section 312 of the Education Act 1996)” rhodder “additional learning needs (as defined in section 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018)”.

Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001

4.—(1Mae Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001(7) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 8, Rhan 1, hepgorer paragraff 12.

Deddf Addysg 2002

5.—(1Mae Deddf Addysg 2002(8) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 1(3)(9), ym mharagraff (g) o’r diffiniad o “qualifying body”, hepgorer “or the National Assembly for Wales”.

(3Yn adran 2(5)(10), yn lle “children with special educational needs” rhodder—

(a)in relation to England, children with special educational needs, or

(b)in relation to Wales, persons under 25 with special educational needs.

(4Ar ôl adran 92 (disgyblion â chynlluniau AIG) mewnosoder—

Pupils with Individual Development Plans

92A.  The additional learning provision described in an individual development plan prepared or maintained by a local authority in Wales under Part 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 may include provision—

(a)excluding the application of the National Curriculum for England, or

(b)applying the National Curriculum for England with such modifications as may be specified in the plan.

Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002

6.—(1Mae Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(11) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 36—

(a)yn is-adran (3)(b), yn lle “a statement in respect of the child under section 324 of the Education Act 1996 (c. 56) (special educational needs)” rhodder “an individual development plan maintained for the child under section 14 or 19 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”;

(b)hepgorer is-adran (5)(d) ac (e);

(c)ar ôl is-adran (5)(f) hepgorer “and”;

(d)ar ôl is-adran (5)(g) mewnosoder “, and”;

(e)ar ôl is-adran (5)(g) mewnosoder—

(h)section 51 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (duty to favour education for children at mainstream maintained schools).;

(f)yn lle is-adran (6) rhodder—

(6) The power of the Education Tribunal for Wales under section 71(1) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (decisions on appeals under section 70) is subject to subsection (2) above.;

(g)yn is-adran (7)—

(i)yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “Children and Families Act 2014” mewnosoder “, Part 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018” ac ar ôl “special educational needs” mewnosoder “or additional learning needs”;

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)the child receiving the additional learning provision called for by the child’s additional learning needs,;

(h)yn lle is-adran (9)(b) rhodder—

(b)the person responsible for education at an accommodation centre may refer a case to a local authority under section 12(2)(a) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 as though—

(i)a child for whom education is provided at the centre under section 29(1)(f) were a child who is a registered pupil at a school, and

(ii)that person were the governing body of the school.;

(i)hepgorer is-adran (9)(c).

Deddf Addysg 2005

7.—(1Mae Deddf Addysg 2005(12) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 28(13), hepgorer is-adrannau (2)(d) a (4)(d).

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006

8.—(1Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006(14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 16(1)(c)(15), ar ôl “section 324 of EA 1996 (statement of special educational needs)” mewnosoder “or an individual development plan under section 14 or 19 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”.

(3Yn adran 88(5), hepgorer “or the Assembly” yn y ddau le y mae’n digwydd.

Deddf Cymwysterau Cymru 2015

9.—(1Mae Deddf Cymwysterau Cymru 2015(16) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 57(5)(a), ar ôl “anghenion addysgol arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol”.

Deddf Cymru 2017

10.—(1Mae Deddf Cymru 2017(17) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 59(1), yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)the Education Tribunal for Wales or Tribiwnlys Addysg Cymru;.

(3Hepgorer adran 62(4).

Deddf y Coronafeirws 2020

11.—(1Mae Deddf y Coronafeirws 2020(18) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 17, Rhan 1, paragraff 7(5)(19), ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(ga)sections 13(1), 14(10), 19(7), 23(1) and 24(1) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (provisions relating to individual development plans);.

Jeremy Miles

Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

15 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae’r Ddeddf honno’n diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth sylfaenol i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn adran 98(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

Diwygiwyd paragraff 5 o Atodlen 5 gan baragraff 63 o Atodlen 3 i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Mae paragraff 5 hefyd yn cynnwys diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

Mae diwygiadau i adran 32 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

Diwygiwyd adran 1 gan baragraff 1 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40). Mae adran 1 hefyd yn cynnwys diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae paragraff (g) o’r diffiniad wedi ei amnewid gan Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) ond nid yw’r amnewidiad mewn grym eto.

(10)

Mae diwygiadau i adran 2 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

Mae diwygiadau i adran 28 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(15)

Diwygiwyd adran 16 gan baragraff 81 o Atodlen 3(2) i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Mae diwygiadau eraill i adran 16 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(17)

2017 p. 4.

(18)

2020 p. 7.

(19)

Mae diwygiadau i baragraff 7 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources