Search Legislation

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Rhagfyr 2022 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a restrir ym mharagraff (2), fel y’u defnyddir yn y Rheoliadau hyn ac fel y maent yn cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yng Nghyfarwyddebau’r UE a addesir gan Ran 5, yr ystyron a roddir ym mharagraff (2).

(2Y geiriau a’r ymadroddion yw—

ystyr “Cyfarwyddeb 64/432” (“Directive 64/432”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy’n effeithio ar fasnachu o fewn y Gymuned anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu’r mochyn(1) fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 88/407” (“Directive 88/407”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy’n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy’n gymwys i fasnachu o fewn y Gymuned semen dwys-rewedig anifeiliaid domestig o’r rhywogaeth fuchol(2), ac i fewnforio’r semen hwnnw, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 89/556” (“Directive 89/556”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu masnachu o fewn y Gymuned embryonau anifeiliaid domestig o’r rhywogaeth fuchol(3), a’u mewnforio o drydydd gwledydd, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 90/429” (“Directive 90/429”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy’n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy’n gymwys i fasnachu o fewn y Gymuned semen anifeiliaid domestig o rywogaeth teulu’r mochyn(4), ac i fewnforio’r semen hwnnw, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 91/68” (“Directive 91/68”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu masnachu o fewn y Gymuned anifeiliaid o deulu’r ddafad ac o deulu’r afr(5) fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 92/65” (“Directive 92/65”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy’n gosod gofynion iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu masnachu anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid sydd wedi eu gosod mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A(1) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC(6), a’u mewnforio i’r Gymuned, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 92/118” (“Directive 92/118”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy’n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy’n llywodraethu masnachu cynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i’r gofynion hynny a osodir mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A (I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC(7), a mewnforio’r cynhyrchion hynny i’r Gymuned, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/99” (“Directive 2002/99”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy’n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl(8) fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/68” (“Directive 2004/68”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC sy’n gosod rheolau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio i’r Gymuned a chludo drwyddi anifeiliaid carnol byw penodol(9) fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 2009/156” (“Directive 2009/156”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC ar amodau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu symud equidae(10), a’u mewnforio o drydydd gwledydd, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 2009/158” (“Directive 2009/158”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu masnachu o fewn y Gymuned ddofednod ac wyau deor(11), a’u mewnforio o drydydd gwledydd, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

mae i “deddfiad” yr ystyr a roddir i “enactment” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 178/2002” (“Regulation (EC) No 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(12);

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 852/2004” (“Regulation (EC) No 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd(13);

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 853/2004” (“Regulation (EC) No 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid(14);

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1251/2008” (“Regulation (EC) No 1251/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/2008 sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/88/EC o ran amodau a gofynion ardystio ar gyfer rhoi ar y farchnad anifeiliaid dyframaethu a’u cynhyrchion, a’u mewnforio i’r Gymuned, ac sy’n gosod rhestr o rywogaethau sy’n fectorau(15);

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” (“Regulation (EC) No 1069/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid nas bwriedir i’w bwyta gan bobl(16);

ystyr “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.

(1)

OJ P 121, 29.7. 1964, t. 1977.

(2)

OJ Rhif L 194, 22.7.1988, t. 10.

(3)

OJ Rhif L 302, 19.10.1989, t. 1.

(4)

OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t. 62.

(5)

OJ Rhif L 46, 19.2.1991, t. 19.

(6)

OJ Rhif L 268, 14.9.1992, t. 54.

(7)

OJ Rhif L 62, 15.3.1993, t. 49.

(8)

OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11.

(9)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 320.

(10)

OJ Rhif L 192, 23.7.2010, t. 1.

(11)

OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74.

(12)

EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641, 2020/1504 a 2022/377.

(13)

EUR 2004/852, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/642 a 2020/1504.

(14)

EUR 2004/853, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/640 a 1247 a 2020/1504.

(15)

EUR 1251/2008, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1388 a 1463, a 2022/835.

(16)

EUR 2009/1069, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/170 a 588, 2020/1388 a 1463.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources