- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Mae’r Atodlen yn cynnwys rhestr o ddarpariaethau Cyfarwyddebau’r UE sy’n rhoi swyddogaethau i’r awdurdod priodol, ynghyd ag unrhyw ddarpariaethau sydd i’w dargadw oherwydd eu bod naill ai i’w darllen gyda darpariaeth a restrir ac yn berthnasol i arfer y swyddogaeth honno, neu’n gysylltiedig â diben y swyddogaeth honno, at ddibenion paragraffau (2) a (3) o’r rheoliad hwn.
(2) Mae’r swyddogaethau a roddir gan y darpariaethau a restrir yn yr Atodlen, ynghyd ag unrhyw ddarpariaethau eraill a restrir yn yr Atodlen a allai fod yn berthnasol i arfer swyddogaeth a restrir, neu’n gysylltiedig â’i harfer, fel y’u haddesir gan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn ac i’r graddau y maent yn ymwneud â llwythi y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt—
(a)yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru i’r graddau y mae’r swyddogaethau o fewn cymhwysedd datganoledig;
(b)yn arferadwy fel pe bai’r darpariaethau hynny yn ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr; ac
(c)i’w trin fel swyddogaeth a roddir gan y Rheoliadau hyn.
(3) Mae swyddogaeth o fewn cymhwysedd datganoledig at ddibenion paragraff (2)(a) pe bai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru i roi swyddogaeth o’r fath mewn Deddf gan Senedd Cymru (a thybio, yn achos darpariaeth na ellid ond ei gwneud gyda chydsyniad un o Weinidogion y Goron o fewn yr ystyr a roddir i “Minister of the Crown” yn Neddf Gweinidogion y Goron 1975(1), y rhoddwyd y cydsyniad hwnnw).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: