Search Legislation

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 891 (Cy. 188) (C. 55)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

Gwnaed

16 Awst 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;

mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(2) o Ddeddf 1996;

ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;

ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(4) o Ddeddf 1996;

ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(5) o Ddeddf 1996;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(6);

mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576(7) o Ddeddf 1996;

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(8);

mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(9) o Ddeddf 1996;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf.

(3Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.

(4Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—

(a)y Ddeddf,

(b)rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac

(c)unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—

(i)darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu

(ii)person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.

(5At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—

(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.

(6At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.

(7At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—

(a)pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;

(b)pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.

(8At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi pan—

(a)na fo’r cyfnod y gallai apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(b)bo’r plentyn neu riant y plentyn wedi gwneud apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Ystyr plentyn sydd â datganiadLL+C

2.  At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “datganiad” os yw P yn blentyn y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas ag ef o dan adran 324 neu 331 o Ddeddf 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022LL+C

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022—

(a)adrannau 2 i 4;

(b)adrannau 6 i 14;

(c)adrannau 17 i 36;

(d)adran 38;

(e)adrannau 40 i 44;

(f)adrannau 47 i 49;

(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)adran 50(4) a (5);

(i)adrannau 51 i 53;

(j)adran 55;

(k)adran 59;

(l)adrannau 63 i 66;

(m)adrannau 68 a 69;

(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)yn yr Atodlen—

(i)paragraff 1;

(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);

(iii)paragraff 4(2) i 4(6);

(iv)paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn(10);

(v)paragraff 4(8) a 4(9);

(vi)paragraff 4(10);

(vii)paragraff 4(13) i 4(18);

(viii)paragraff 4(19)(b);

(ix)paragraff 4(20) a 4(21);

(x)paragraff 4(23) i 4(29);

(xi)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xii)paragraff 7;

(xiii)paragraff 8;

(xiv)paragraff 11(a);

(xv)paragraff 12(a);

(xvi)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);

(xvii)paragraff 14(2) a (3);

(xviii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);

(xix)paragraff 19(5)(e)(ii);

(xx)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);

(xxi)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxii)paragraff 22;

(xxiii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);

(xxiv)paragraff 23(4);

(xxv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);

(xxvi)paragraff 24(3) a (6)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Darpariaeth arbedLL+C

4.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 a 15 i 22, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996(11) wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd â datganiad—

(a)mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a

(b)nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Hysbysiad CDULL+C

5.  Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—

(a)bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a

(b)y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 5 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Hysbysiad Dim CDULL+C

6.  Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 6 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Effaith hysbysiad CDULL+C

7.  Effaith yr hysbysiad CDU yw—

(a)y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,

(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 7 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Effaith hysbysiad Dim CDULL+C

8.  Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—

(a)y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,

(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Ergl. 8 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Dyletswydd i roi hysbysiadLL+C

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac—LL+C

(a)sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu

(b)sydd o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.

(3Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 9 mewn grym ar y dyddiad gwneud

[F19A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.LL+C

(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.

(3) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.]

10.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl 9 [F2na 9A].LL+C

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 [F3neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025].

(3Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

Dyletswydd i roi hysbysiad pan fydd apêl sy’n mynd rhagddi yn dod i benLL+C

11.—(1Pan na roddir hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn unol ag erthyglau 9 [F4, 9A] neu 10 oherwydd apêl sy’n mynd rhagddi, mae paragraff (2) yn gymwys.

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)ar ôl i’r cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo ddod i ben, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud.

Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDULL+C

12.—(1Caiff plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.

(2Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu

(b)pan fydd erthyglau 15 i 22 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Ergl. 12 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigolLL+C

13.—(1Pan roddir hysbysiad CDU yn unol ag erthyglau 9, [F59A,] 10, 11 neu 12 rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, oni bai—

(a)bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys,

(b)bod adran 31 o’r Ddeddf yn gymwys, neu

(c)bod amgylchiadau eithriadol.

(2Os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys neu os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol yn gymwys pan fydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.

Hysbysiad ADYLL+C

14.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.

(3Effaith yr hysbysiad ADY yw—

(a)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a

(b)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.

(4Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.

(5Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Ergl. 14 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodolLL+C

15.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—

(i)yn iau na’r oedran ysgol gorfodol, neu

(ii)o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,

(c)nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023,

(d)nad yw erthygl 16 yn gymwys iddo, ac

(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.

(2Ar 31 Awst 2023—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud

16.—(1)  Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—

(i)yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,

(ii)o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2023,

(d)nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023, ac

(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.

(2Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) (C) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Ergl. 16 mewn grym ar y dyddiad gwneud

17.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—

(i)yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,

(ii)o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac

(c)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.

(2Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Ergl. 17 mewn grym ar y dyddiad gwneud

[F617A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,

(c)nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,

(d)nad yw erthygl 17B yn gymwys iddo, ac

(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar 31 Awst 2024—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

17B.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir,

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024,

(d)nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024, ac

(e)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

17C.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac

(c)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.]

18.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F72025],

(c)nad yw erthygl 19 yn gymwys iddo, a

(d)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F72025].

(2Ar 31 Awst [F72025]

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

19.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst [F82025],

(c)nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F82025], a

(d)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F82025].

(2Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

20.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Ionawr 2022, a

(b)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F92025].

(2Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

Newid mewn amgylchiadauLL+C

21.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 y mae ei ddatganiad yn peidio â chael ei gynnal.

(2Ar y dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn peidio â chynnal y datganiad—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Ergl. 21 mewn grym ar y dyddiad gwneud

22.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022—

(a)sy’n symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd ar 1 Medi 2022 yn cynnal y datganiad, a

(b)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2Oni bai bod apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn, ar y dyddiad y mae’r plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd yn cynnal y datganiad—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Ergl. 22 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Sylw i ddatganiad anghenion addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigolLL+C

23.  Pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid rhoi sylw i gynnwys y datganiad a gynhaliwyd ar gyfer y plentyn hwnnw yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Ergl. 23 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Galluedd plantLL+C

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.

(2Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(3Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) na’r pŵer ym mharagraff (5) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(4Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—

(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau [F109(2), 9A(2),] a 10(2) ac 11;

(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;

(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1).

(5Y pŵer y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yw’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14.

(6Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(7Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwysLL+C

25.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022.

(2Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na phŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(3Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthyglau 9(2), [F119A(2),] 10(2) ac 11;

(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 12;

(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1).

(4Y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 12;

(b)y pŵer i roi hysbysiad ADY i riant yn erthygl 14.

(5Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(6Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

16 Awst 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd ym mlwyddyn 11 ac is (neu’r rheini a fyddai ym mlwyddyn 11 ac is pe baent yn mynychu ysgol), ac sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig.

Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith (erthygl 4).

Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol (gweler erthygl 1(7)) roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 a 10). Er enghraifft, bydd plentyn sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, sydd mewn dosbarth meithrin, sydd mewn dosbarth derbyn, neu sydd ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 (neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol) yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y mae’r plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd. Nid yw’r ddyletswydd ar yr awdurdod lleol priodol i roi hysbysiad yn gymwys pan allai plentyn neu riant y plentyn ddwyn apêl, neu pan fydd plentyn neu riant y plentyn wedi dwyn apêl ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno. Mewn achos o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r amser ar gyfer dwyn apêl ddod i ben (os na ddygir apêl) neu pan ddyfernir yn derfynol ar yr apêl (erthygl 11).

Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).

Caiff plentyn sydd â datganiad neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad yn cael ei roi (erthygl 13). Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau penodol yn gymwys (erthygl 14).

Caiff yr awdurdod lleol priodol hefyd, o dan amgylchiadau eithriadol, roi i unrhyw blentyn a rhiant y plentyn hwnnw hysbysiad ADY a fydd yn trosglwyddo’r plentyn i’r gyfraith newydd (erthygl 15).

Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo ynddi, mae erthyglau 16 i 19 yn nodi ar ba ddyddiad y mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac y mae’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn.

Mae erthygl 21 yn gymwys pan fo datganiad plentyn yn peidio â chael ei gynnal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae datganiad y plentyn yn peidio â chael ei gynnal.

Mae erthygl 22 yn gymwys i blentyn sy’n peidio â bod yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol sy’n cynnal y datganiad. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol oni bai y gallai’r plentyn neu riant y plentyn ddwyn apêl, neu fod y plentyn neu riant y plentyn wedi dwyn apêl ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.

Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sydd â datganiad, rhaid rhoi sylw i’r datganiad a gynhelir mewn perthynas â’r plentyn yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 23).

Mae erthygl 24 yn adlewyrchu, at ddibenion y Gorchymyn hwn, adran 84 o’r Ddeddf sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

Mae erthygl 25 yn darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â rhieni yn y Gorchymyn hwn (e.e. i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant) yn gymwys pan fydd y plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(12):

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)(13)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)(14)

O.S. 2021/1245 (W. 317) (C. 70)

Adran 4 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116)( C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 52 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 6 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 7 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 8 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 9 i 14 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 152 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 16 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)(15)

Adrannau 17 i 20 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 21 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 22 i 31 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 32 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 33 i 35 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 36 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 372 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 38 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 392 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 452 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 462 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 47 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 48 i 49 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 54 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 55 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 56 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 56(1)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 56(4) i (6)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 57 i 581 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Adran 59 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 604 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 614 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 624 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 65 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 66 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adran 672 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Adrannau 70 i 731 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 742 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 75 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 76 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 77 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adrannau 78 i 811 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 822 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 83 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 841 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 85 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adrannau 86 i 901 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 91 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 92 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adrannau 93 i 941 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 95 (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Adran 96 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 31 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b)

(yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraffau 9 a 101 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 11(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 12(b)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 131 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 181 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)

(yn llawn)

2 Tachwedd 2020

1 Medi 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 201 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i)1 Medi 2021

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol)

1 Medi 2021

1 Ionawr 2022

O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)

O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)

O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)

O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)

Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c)1 Medi 2021O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12)(16)
(2)

Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.

(4)

Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

(5)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).

(7)

Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 180 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.

(8)

Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(9)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(10)

Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Deddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r plentyn neu’r disgybl.

(11)

Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.

(12)

Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/892 (Cy. 189) (C. 56)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022 (O.S. 2022/894 (Cy. 191) (C. 58)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022 (O.S. 2022/895 (Cy. 192) (C. 59) Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/897 (Cy. 194) (C. 61)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022 (O.S. 2022/898 (Cy. 195) (C. 62)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.),

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources