- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
16 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
ystyr “Deddf 1996” (“ the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
ystyr “Deddf 2014” (“ the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(3);
ystyr “y Ddeddf” (“ the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(4) o Ddeddf 1996.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 3 ar 1 Medi 2022—
(a)adrannau 2 i 4;
(b)adrannau 6 i 14;
(c)adrannau 17 i 36;
(d)adran 38;
(e)adrannau 40 i 44;
(f)adrannau 47 i 49;
(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)adran 50(4) i (5);
(i)adrannau 51 i 53;
(j)adran 55;
(k)adran 59;
(l)adrannau 63 i 66;
(m)adrannau 68 i 69;
(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
(iii)paragraff 4(2) i 4(6);
(iv)paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn(5);
(v)paragraff 4(8) i 4(9);
(vi)paragraff 4(10);
(vii)paragraff 4(13) i 4(18);
(viii)paragraff 4(19)(b);
(ix)paragraff 4(20) a 4(21);
(x)paragraff 4(23) i 4(29);
(xi)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xii)paragraff 7;
(xiii)paragraff 8;
(xiv)paragraff 11(a);
(xv)paragraff 12(a);
(xvi)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
(xvii)paragraff 14(2) a (3);
(xviii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
(xix)paragraff 19(5)(e)(ii);
(xx)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
(xxi)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxii)paragraff 22;
(xxiii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
(xxiv)paragraff 23(4);
(xxv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
(xxvi)paragraff 24(3) a (6)(a).
3. Person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol—
(a)y mae cynllun AIG yn cael ei lunio mewn perthynas ag ef;
(b)y mae cynllun AIG yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ef;
(c)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(d)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(e)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(f)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(g)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Awst 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sy’n ymwneud â fframwaith statudol Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (er enghraifft, mae cynllun addysg, iechyd a gofal yn cael ei lunio neu ei gynnal mewn perthynas â’r person).
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(6):
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)(7) |
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116)( C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 9 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 16 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 54 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 56 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 75 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 76 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 77 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 83 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 84 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 85 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 91 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 92 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 95 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (10) |
1996 p. 56.
2014 p. 6.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Deddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r plentyn neu’r disgybl.
Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/891 (Cy. 188) (C. 55)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/892 (Cy. 189) (C. 56)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022 (O.S. 2022/894 (Cy. 191) (C. 58)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022 (O.S. 2022/895 (Cy. 192) (C. 59)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/897 (Cy. 194) (C. 61)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cyf. 369) (C. 80).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: