- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran Cymru;
(c)yn dod i rym ar 22 Rhagfyr 2023.
2.—(1) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr ag yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno.
(2) Yn Atodlenni 1 i 13—
(a)mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir i gyfeirio at rywogaethau neu gategorïau o anifeiliaid sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Atodiad 4 (categorïau a diffiniadau o anifeiliaid targed etc.) i Reoliad 429/2008 yr un ystyr ag yn yr Atodiad hwnnw;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at fân rywogaeth i’w ddarllen yn unol â’r diffiniad o “minor species” yn Erthygl 1 o Reoliad 429/2008.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;
ystyr “Rheoliad 429/2008” (“Regulation 429/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 429/2008 ar reolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran llunio a chyflwyno ceisiadau ac asesu ac awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid(1);
ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio(2).
3.—(1) Mae Atodlenni 1 i 13 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 13 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 21 Rhagfyr 2033.
4.—(1) Caniateir i’rychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a’r rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 21 Mehefin 2024 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 22 Rhagfyr 2023, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu dihysbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 21 Rhagfyr 2024 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 22 Rhagfyr 2023, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu dihysbyddu.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdodiad ymlaen llaw” (“prior authorisation”) yw’r awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 902/2009 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad ensym o endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu, ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio (deiliad awdurdodiad Roal Oy)(3);
ystyr “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yw’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8), sydd â’r rhif adnabod 4a8, a awdurdodwyd o dan yr awdurdodiad blaenorol(4).
5.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 601/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodi cobalt(II) asetad tetrahydrad, cobalt(II) carbonad, cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad, cobalt(II) sylffad heptahydrad a chobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad gronynnog araenedig fel ychwanegion bwyd anifeiliaid (5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, hepgorer y cofnodion ar gyfer—
(a)cobalt(II) asetad tetrahydrad (rhif adnabod 3b301);
(b)cobalt(II) carbonad (rhif adnabod 3b302);
(c)cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad (rhif adnabod 3b303);
(d)cobalt(II) sylffad heptahydrad (rhif adnabod 3b305).
6.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/221 sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 785/2007, (EC) Rhif 379/2009, (EC) Rhif 1087/2009, (EU) Rhif 9/2010, (EU) Rhif 337/2011 a Rheoliadau Gweithredu (EU) Rhif 389/2011, (EU) Rhif 528/2011, (EU) Rhif 840/2012, (EU) Rhif 1021/2012, (EU) 2016/899, (EU) 2016/997, (EU) 2017/440 ac (EU) 2017/896 ynghylch enw deiliad yr awdurdodiad a chynrychiolydd deiliad yr awdurdodiad ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid penodol(6) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer Erthygl 4 (diwygio Rheoliad (EU) Rhif 9/2010).
(3) Hepgorer Erthygl 7 (diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 528/2011).
(4) Hepgorer Erthygl 9 (diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 1021/2012).
7. Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 14 wedi eu dirymu.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2023
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: