Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid (EUR 1831/2003). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi rhoi 13 o ychwanegion bwyd anifeiliaid ar y farchnad, eu prosesu a’u defnyddio.

Mae rheoliad 3, ac Atodlenni 1 i 13, yn darparu ar gyfer awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid.

Mae Atodlen 1 yn cynnwys adnewyddiad (ag addasiad) o awdurdodiad paratoad o endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir o Trichoderma reesei (CBS 143953) (rhif adnabod 4a11), ac estyniad o’r defnydd awdurdodedig presennol i gwmpasu rhywogaethau/categorïau ychwanegol o anifeiliaid. Yr addasiadau wrth adnewyddu’r awdurdodiad yw—

  • mae’r rhif adnabod straen ar gyfer Trichoderma reesei wedi ei ddiweddaru i “CBS 142953” (“ATCC PTA 5588” yn flaenorol);

  • mae isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn i’w pesgi wedi ei ostwng o 1,250 i 625 U/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn.

Mae Atodlen 2 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lacticasebacillus rhamnosus (IMI 507023) (rhif adnabod 1k21701).

Mae Atodlen 3 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Pediococcus pentosaceus (IMI 507024) (rhif adnabod 1k21016).

Mae Atodlen 4 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Pediococcus pentosaceus (IMI 507025) (rhif adnabod 1k21017).

Mae Atodlen 5 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507026) (rhif adnabod 1k21601).

Mae Atodlen 6 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507027) (rhif adnabod 1k21602).

Mae Atodlen 7 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507028) (rhif adnabod 1k21603).

Mae Atodlen 8 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (DSM 26571) (rhif adnabod 1k1604).

Mae Atodlen 9 yn cynnwys adnewyddiad (ag addasiad) o awdurdodiad endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir o Trichoderma reesei (CBS 114044) (EC 3.2.1.8) (rhif adnabod 4a8i). Yr addasiadau wrth adnewyddu’r awdurdodiad yw—

  • mae rhif adnabod yr ychwanegyn wedi ei newid o 4a8 i 4a8i;

  • mae lefel isaf yr actifedd ensym stoc wedi ei gostwng i 160,000 BXU/g ar y ffurfiau solet a hylif (o 4,000,000 BXU/g ar y ffurf solet a 400,000 BXU/g ar y ffurf hylif).

Mae Atodlen 10 yn cynnwys adnewyddiad (ag addasiad) o awdurdodiad 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir o Trichoderma reesei (CBS 122001) (rhif adnabod 4a12). Yr addasiad wrth adnewyddu’r awdurdodiad yw—

  • mae lefel isaf yr actifedd ensym stoc wedi ei gostwng i 5,000 PPU/g ar y ffurf hylif (o 10,000 PPU/g).

Mae Atodlen 11 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer sylfaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir o Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) (rhif adnabod 3c326).

Mae Atodlen 12 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer L-lysin monohydroclorid a gynhyrchir o Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) (rhif adnabod 3c327).

Mae Atodlen 13 yn cynnwys awdurdodiad newydd, ar gyfer 3-nitroocsypropanol (rhif adnabod 4c1).

Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn yn ddilys am gyfnod o ddeng mlynedd yn unol ag Erthygl 9(7) o EUR 2003/1831. Mae hyn yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) o’r Rheoliad hwnnw, sy’n darparu ar gyfer estyn cyfnod yr awdurdodiad mewn amgylchiadau penodol pan fo cais i adnewyddu wedi ei gyflwyno.

Mae rheoliad 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol. Mae adnewyddu awdurdodiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid o dan Atodlen 9 yn ddarostyngedig i newid i rif adnabod yr ychwanegyn (o “4a8” i “4a8i”). Mae rheoliad 4 yn caniatáu parhau i gynhyrchu a labelu cynhyrchion, am y cyfnodau cyfyngedig o amser a bennir, o dan amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw a’r gofynion labelu sy’n gymwys yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym. Caniateir marchnata a defnyddio cynhyrchion a gynhyrchir o fewn y cyfnodau trosiannol hyd nes y bydd stociau wedi eu disbyddu.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 601/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodi cobalt(II) asetad tetrahydrad, cobalt(II) carbonad, cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad, cobalt(II) sylffad heptahydrad a chobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad gronynnog araenedig fel ychwanegion bwyd anifeiliaid (EUR 2013/601), i ddileu cofnodion a ddisbyddwyd sy’n ymwneud â phedwar ychwanegyn bwyd anifeiliaid. Daeth yr awdurdodiadau ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny i ben ar ddiwedd 14 Gorffennaf 2014. Mae’r pedwar ychwanegyn bwyd anifeiliaid hynny bellach wedi eu hawdurdodi dros dro am 5 mlynedd arall, o ran Cymru, drwy benderfyniad gweinyddol gan Weinidogion Cymru dyddiedig 20 Mehefin 2023, a wnaed yn unol ag Erthygl 15 o EUR 2003/1831. Rhagnodwyd ffurfiau’r awdurdodiadau ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Ffurf Awdurdodiadau Dros Dro) (Cyfansoddion Cobalt(II)) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/678 (Cy. 100)).

  • Mae rheoliad 6 yn dirymu, o ran Cymru, fân ddarpariaethau diwygio sy’n ymwneud ag offerynnau sydd wedi eu dirymu gan reoliad 7 (ac Atodlen 14).

  • Mae rheoliad 7 ac Atodlen 14 yn dirymu, o ran Cymru, offerynnau a ddisbyddwyd, gan gynnwys yr awdurdodiadau ymlaen llaw ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd bellach wedi eu hawdurdodi gan Atodlenni 1, 9 a 10.

Gellir cael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlenni, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu drwy ysgrifennu at: regulated.products.wales@food.gov.uk.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources