Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 12Awdurdodi L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) a gynhyrchir o Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) (rhif adnabod 3c327) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid

Mae’r sylwedd L‐lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegyn “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.

(1)

CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry.

(2)

Stocrestr Ewropeaidd o Sylweddau Masnachol Presennol, fel y’i cyhoeddwyd yn OJ Rhif C 146A, 15.6.90, t.1.

(3)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2020)4503369-31/08/2020” a “JRC F.5/CvH/MGH/AS/Ares” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 16 Hydref 2020. Ar gael yn: https://joint-research-centre.ec.europa.eu/publications/fad-2020-0008_en.

(4)

Food Chemicals Codex, Confensiwn Cyffuriadol yr Unol Daleithiau, 13eg argraffiad (ar-lein). Cyhoeddwyd gan US Pharmacopeia (USP) ar 1 Mawrth 2022 (ISSN 2153-1455). Ar gael yn https://www.foodchemicalscodex.org.

(5)

O dan y cyfeirnod BS EN ISO 17180:2013 “Animal feeding stuffs. Determination of lysine, methionine and threonine in commercial amino acid products and premixtures”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Ebrill 2013 (ISBN 978 0 580 76077 8). Ar gael yn: https://knowledge.bsigroup.com.

(6)

Cynnwys L-lysin monohydroclorid (mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%).

Yr ychwanegynL-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol)
Rhif adnabod3c327
Deiliad yr awdurdodiadDim
Categori ychwanegionYchwanegion maethol
Grŵp gweithredolAsidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegynPowdr L-lysin monohydroclorid sydd o leiaf 78% L-lysin ac sydd ag uchafswm cynnwys lleithder o 1.5%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif

L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP)

L-lysin monohydroclorid (C6H15ClN 2 O2)

  • Rhif CAS: 657-27-2(1)

  • Rhif EINECS: 211-519-9(2)

Dulliau dadansoddi(3)

I adnabod L-lysin monohydroclorid yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:

  • Monograff L-lysin monohydroclorid y Food Chemicals Codex(4)

I feintioli lysin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau sy’n cynnwys mwy na 10% lysin:

  • Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013(5))

I feintioli lysin mewn rhag-gymysgeddau, deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:

  • Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod ffotometrig (IEC-VIS) yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol (Atodiad 3-F)

I feintioli lysin mewn dŵr:

  • Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013); neu

  • Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS) yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) 152/2009 (Atodiad 3-F)

Rhywogaeth neu gategori o anifailPob rhywogaeth o anifail
Oedran hynafDim
Isafswm cynnwys(6)Dim
Uchafswm cynnwys(6)Dim
Darpariaethau eraill1. Rhaid nodi’r cynnwys lysin ar label yr ychwanegyn
2. Caniateir rhoi L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) ar y farchnad a’i ddefnyddio fel ychwanegyn sydd ar ffurf paratoad

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources