- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023.
(2) Daw i rym ar 6 Ebrill 2024.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1);
ystyr “swyddog gorfodaeth” (“enforcement officer”) yw person a awdurdodir o dan erthygl 4(1).
3. Y rheoleiddiwr, at ddibenion gorfodi trosedd o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990, yw’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi.
4.—(1) Caiff y rheoleiddiwr awdurdodi unrhyw berson i arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau a bennir yn erthygl 6 os ymddengys i’r rheoleiddiwr fod y person hwnnw yn addas i’w arfer neu i’w harfer.
(2) Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig.
5. Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch y sancsiynau sifil y caniateir eu gosod at ddiben gorfodi trosedd o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990.
6.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth fynd i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at ddiben penderfynu a yw trosedd o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990 yn cael ei chyflawni neu wedi ei chyflawni.
(2) Rhaid i swyddog gorfodaeth, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y swyddog hwnnw.
(3) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i swyddog gorfodaeth fynd i fangre at ddiben penderfynu a yw trosedd o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990 yn cael ei chyflawni neu wedi ei chyflawni, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno, a
(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4) wedi ei fodloni neu eu bodloni.
(4) Yr amodau yw—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn tanseilio’r amcan o fynd i’r fangre,
(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu
(d)nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(5) Mae gwarant yn ddilys am un mis.
(6) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre o dan yr erthygl hon, neu warant a ddyroddir odani, ddod â’r personau hynny y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(7) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu fangre y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd cyn mynd iddi.
(8) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre o dan yr erthygl hon, neu warant a ddyroddir odani—
(a)edrych ar unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y’u cedwir) a chymryd copi o unrhyw gofnodion y mae ganddo reswm dros gredu y gallant fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990 neu’r Gorchymyn hwn, neu ymafael mewn unrhyw gofnodion o’r fath a’u cadw,
(b)pan fo unrhyw gofnodion o’r fath yn cael eu storio ar ffurf electronig—
(i)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion ac arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur o’r fath ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig o’r fath,
(ii)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a chanddo ofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, ddarparu unrhyw gymorth a all fod yn rhesymol ofynnol, a
(iii)ei gwneud yn ofynnol i’r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy’n caniatáu mynd â hwy ymaith.
(9) Rhaid i swyddog gorfodaeth—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ymafael mewn unrhyw gofnodion o dan baragraff (8), ddarparu derbynneb ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi’r cofnodion hynny, a
(b)dychwelyd y cofnodion i’r meddiannydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol unwaith nad ydynt yn ofynnol mwyach at ddibenion achos o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990 neu’r Gorchymyn hwn.
(10) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre o dan yr erthygl hon, neu warant a ddyroddir odani, at ddibenion ymchwilio i droseddau o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990 neu gasglu tystiolaeth a all fod yn ofynnol mewn achos o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990 neu’r Gorchymyn hwn—
(a)mesur, neu dynnu ffotograffau, neu wneud recordiadau o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych ar y fangre neu unrhyw beth sydd ynghlwm wrth y fangre neu sydd fel arall yn ffurfio rhan ohoni,
(b)cymryd sampl o unrhyw eitem neu unrhyw sylwedd,
(c)gweithredu unrhyw offer a geir ar y fangre,
(d)ymafael mewn unrhyw offer a geir ar y fangre a chadw’r offer hwnnw am gyhyd ag sy’n rhesymol angenrheidiol.
(11) Caiff swyddog gorfodaeth ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan yr erthygl hon pan na fydd y sampl yn ofynnol mwyach.
(12) Rhaid i swyddog gorfodaeth—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ymafael mewn unrhyw offer o dan baragraff (10)(d), ddarparu derbynneb ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi’r offer yr ymafaelwyd ynddynt, a
(b)dychwelyd yr offer i’r meddiannydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol unwaith nad ydynt yn ofynnol mwyach at ddibenion achos o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990 neu’r Gorchymyn hwn.
(13) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw fangre o fewn paragraff (a) na (b) o adran 75(5) (eiddo domestig a charafannau) o Ddeddf 1990.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
29 Tachwedd 2023
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: