Search Legislation

Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn hwn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos o dan adran 34D o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’i mewnosodwyd gan adran 66(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3)). Mae torri’r gwaharddiad hwn yn drosedd o dan adran 34D(3) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43).

Cyflwynir cyfundrefn sancsiynau sifil i alluogi’r rheoleiddiwr i osod cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio (erthygl 5 a pharagraffau 1, 11 a 19 o’r Atodlen). Y rheoleiddiwr, at ddibenion y Gorchymyn hwn, yw’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â’r sancsiynau sifil, gan gynnwys apelau. Mae apelau o dan y Gorchymyn hwn i’w cyflwyno i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn (paragraffau 25 i 27) yn darparu bod rhaid cyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil. Rhaid hefyd gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth (paragraff 26). Cyn i unrhyw ganllawiau gael eu cyhoeddi, mae’n ofynnol i’r rheoleiddiwr ymgynghori (paragraff 27). Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ynghylch camau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr (paragraff 28 o’r Atodlen). Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill costau penodol gorfodaeth (paragraff 22 o’r Atodlen) yn achos cosbau ariannol amrywiadwy.

Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir gan y rheoleiddiwr o dan y Gorchymyn hwn ynghyd ag unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr (paragraff 29 o’r Atodlen).

Mae erthygl 6 yn rhoi pwerau i swyddogion gorfodaeth i ymchwilio mewn perthynas â throseddau posibl, gan gynnwys pwerau mynediad ac ymafael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources