Search Legislation

Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cosbau ariannol penodedig

Gosod cosb ariannol benodedig

1.—(1Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson (“cosb ariannol benodedig”) mewn perthynas â throsedd o dan adran 34D(3) o Ddeddf 1990.

(2Cyn gwneud hynny, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.

(3Swm y gosb i’w thalu i’r rheoleiddiwr fel cosb ariannol benodedig yw £300.

Hysbysiad o fwriad

2.—(1Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.

(2Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;

(d)gwybodaeth am—

(i)effaith y taliad rhyddhau hwnnw;

(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;

(iii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).

Rhyddhau rhag atebolrwydd

3.  Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.

Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.

Cyflwyno hysbysiad terfynol

5.—(1Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol (“hysbysiad terfynol”) sy’n gosod cosb ariannol benodedig.

(2Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(3Ni chaiff y rheoleiddiwr sy’n cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r drosedd.

Cynnwys hysbysiad terfynol

6.  Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)swm y gosb,

(c)sut y caniateir talu,

(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn,

(e)manylion y disgowntiau am dalu’n gynnar a’r cosbau am dalu’n hwyr,

(f)hawliau apelio, ac

(g)canlyniadau peidio â thalu.

Disgownt am dalu’n gynnar

7.  Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol

8.—(1Caiff y person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.

(2Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)unrhyw reswm tebyg arall.

Peidio â thalu ar ôl 56 o ddiwrnodau (cosb am dalu’n hwyr)

9.—(1Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 56 o ddiwrnodau i gael hysbysiad terfynol.

(2Os na thelir y gosb o fewn 56 o ddiwrnodau cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.

(3Yn achos apêl, mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau cynyddir swm y gosb 50%.

Achosion troseddol

10.—(1Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—

(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol yn erbyn y person hwnnw am y drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a

(b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.

(2Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources