Search Legislation

Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1332 (Cy. 240)

Diwygio Cyfraith Yr Ue A Ddargedwir, Cymru

Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023

Gwnaed

6 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

1 Ionawr 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023(1).

Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol at ddibenion adran 19(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023(2).

Yn unol â pharagraff 8(1) o Atodlen 5 i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.

RHAN 2Diwygio deddfwriaeth sylfaenol

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

2.  Yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(3), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

3.  Mae adran 17 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

(b)yn is-adran (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

4.  Yn adran 65(4)(a) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(5), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

5.  Yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(6), yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

6.  Mae rheoliad 2 o Reoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004

7.—(1Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 12(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(3Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

8.  Mae rheoliad 2A o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(9) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (3)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

9.—(1Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(3)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(3Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1A, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009

10.—(1Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1, yng ngholofn “Y pwnc” o’r tabl–

(a)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

11.  Mae rheoliad 4 o Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011(12) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)ym mharagraff (1), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

12.  Mae rheoliad 2 o Reoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(13) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.

Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

13.—(1Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle ““darpariaeth cig dofednod yr UE a ddargedwir” (“retained EU poultrymeat provision”)” rhodder ““darpariaeth cig dofednod a gymathwyd” (“assimilated poultrymeat provision”)”.

(3Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(4Yn rheoliad 14(1)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(5Ym mhennawd Atodlen 1, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

14.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 15—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”.

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”;

(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”;

(iii)yn is-baragraff (d), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(3Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11A(1), yn lle “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

15.—(1Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012(16) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 11(3)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(3Yn erthygl 11A—

(a)ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

16.—(1Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle ““Rheoliadau’r UE a ddargedwir” (“the retained EU Regulations”)” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig” (“the specified food Regulations”)”.

(3Yn rheoliad 16, yn lle “a Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “a’r Rheoliadau bwyd penodedig”.

(4Yn rheoliad 19(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Reoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig”.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

17.  Ym mharagraff 3(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 2014(18), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

18.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2), yn lle “y Rheoliad UE a ddargedwir o dan sylw” rhodder “Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.

(3Yn rheoliad 15A(4)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

19.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (8)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)ym mharagraff (13)(b)(ii), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(3Yn rheoliad 6(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(4Yn rheoliad 17(4)(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(5Yn rheoliad 25(3)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(6Yn rheoliad 31(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(7Ym mharagraff 2(c)(vi) o Atodlen 3, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

(8Ym mharagraff 8 o Atodlen 4, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

20.—(1Mae Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “dosbarthu”, yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)yn lle ““darpariaeth eidion yr UE a ddargedwir” (“retained EU beef provision”)” rhodder ““darpariaeth cig eidion a gymathwyd” (“assimilated beef provision”)”;

(c)yn lle ““darpariaeth moch yr UE a ddargedwir” (“retained EU pig provision”)” rhodder ““darpariaeth moch a gymathwyd” (“assimilated pork provision”)”.

(3Yn rheoliad 15, yn lle “â darpariaethau moch yr UE a ddargedwir” rhodder “â’r darpariaethau moch a gymathwyd”.

(4Yn rheoliad 26—

(a)yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(c)ym mharagraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(5Yn rheoliad 27—

(a)yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(d)ym mharagraff (3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(6Yn rheoliad 36—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(b)ym mharagraff (1)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(7Yn Atodlen 1—

(a)yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;

(b)yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(8Yn Atodlen 2—

(a)yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;

(b)yn Rhan 1, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;

(c)yn Rhan 2, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019

21.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019(22), yn y diffiniad o “sylwedd diawdurdod”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

22.  Yn rheoliad 2(1) o Reolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(23), yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020

23.  Ym mharagraff 11(3)(a) o Atodlen 4 i Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020(24), yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

24.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(25) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 21(3), yn y diffiniad o “rhanddirymiad iechyd planhigion”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.

(3Yn rheoliad 38(1)(f), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(4Yn rheoliad 43(2)(b), yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.

(5Ym mhennawd Atodlen 3, yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

25.  Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022(26), yn lle “Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

6 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (p. 28) (“Deddf 2023”). Adran 19(1) yw’r pŵer i wneud darpariaeth briodol o ganlyniad i ddarpariaethau o Ddeddf 2023 ac sydd yn rhinwedd adran 20(1) yn cynnwys y gallu i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, o ganlyniad i ailenwi cyfraith yr UE a ddargedwir (a thermau cysylltiedig) yn gyfraith a gymathwyd (a thermau cysylltiedig) bob amser ar ôl diwedd 2023, fel y’i nodir yn adran 5 o Ddeddf 2023.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol ac mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth berthnasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diffinnir y term “relevant national authority” yn adran 21(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.

(3)

2008 mccc 2. Mewnosodwyd adran 14A gan adran 1 o Fesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (mccc 6) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2019/236 (Cy. 55).

(4)

2010 mccc 8. Mewnosodwyd adran 17(3) i (8) gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).

(5)

2016 dccc 6. Diwygiwyd adran 65(4)(a) gan O.S. 2019/833 (Cy. 153).

(6)

O.S. 2003/1719 (Cy. 186), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/179 (Cy. 45). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).

(8)

O.S. 2004/1656 (Cy. 170), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/245 (Cy. 60). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2005/1806 (Cy. 138), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).

(10)

O.S. 2009/995 (Cy. 81) a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/244 (Cy. 59). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 2009/3254 (Cy. 283), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/179 (Cy. 45). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 2011/991 (Cy. 145), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.)

(13)

O.S. 2011/1014 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).

(14)

O.S. 2011/1719 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

O.S. 2012/1903 (Cy. 230), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1215 (Cy. 274). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(18)

O.S. 2014/951 (Cy. 92), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/684 (Cy. 131). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(19)

O.S. 2016/386 (Cy. 120), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/1362 (Cy. 273). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(20)

O.S. 2017/567 (Cy. 136), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/245 (Cy. 60). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(21)

O.S. 2018/1215 (Cy. 248), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae offeryn diwygio arall ond nid ywʼn berthnasol.

(25)

O.S. 2020/206 (Cy. 48). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2020/1134 (Cy. 259) ac O.S. 2020/1628 (Cy. 342).

(26)

O.S. 2022/1118 (Cy. 233), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources