Search Legislation

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2023/1266 (Cy. 221) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1393 (Cy. 247)

Amaethyddiaeth, Cymru

Dŵr, Cymru

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023

Gwnaed

14 Rhagfyr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1).

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2023.

Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

2.  Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)

3.  Yn rheoliad 2(b) (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) ar ôl “1 Ionawr 2024” mewnosoder “fodd bynnag, nid yw rheoliad 4 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd nes 1 Ionawr 2025”.

Diwygio rheoliad 3 (dehongli)

4.  Yn rheoliad 3 (dehongli)—

(a)ar ôl y diffiniad o “cynllun gwrteithio”, mewnosoder—

ystyr “cynllun rheoli maethynnau uwch” (“enhanced nutrient management plan”) yw cynllun a lunnir yn unol â pharagraffau 6 a 7 o Atodlen 1A;;

(b)yn lle’r diffiniad o “CANC” rhodder—

ystyr “CNC” (“NRW”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru;;

(c)ar ôl y diffiniad o “cwrs dŵr” mewnosoder—

ystyr “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) yw system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd;

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024;..

(d)ar ôl y diffiniad o “daliad” mewnosoder—

ystyr “daliad glaswelltir cymhwysol” (“qualifying grassland holding”) yw daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o ardal amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa;;

Mewnosod rheoliadau newydd 4A a 4B

5.  Ar ôl rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder—

Dodi tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar ddaliadau glaswelltir cymhwysol yn ystod y cyfnod perthnasol

4A.(1) Rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol—

Formula

lle—

A yw arwynebedd y daliad (hectarau), fel y bo’n bodoli ar 1 Ionawr 2024;

Ngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 1 yn Atodlen 1;

Nngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 2 yn Atodlen 1.

(2) Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, rhaid iddo—

(a)cyflwyno hysbysiad i CNC yn unol â rheoliad 4B, a

(b)cydymffurfio â’r gofynion rheoli maethynnau uwch yn Atodlen 1A.

(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen sydd i’w daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd ac unrhyw goetir (oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori).

Gofynion hysbysu

4B.(1)  Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys—

(a)enw meddiannydd y daliad glaswelltir cymhwysol,

(b)cyfeiriad y daliad glaswelltir cymhwysol,

(c)datganiad ysgrifenedig bod y meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a

(d)datganiad ysgrifenedig y bydd y meddiannydd yn cydymffurfio â’r gofynion ychwanegol a nodir yn Atodlen 1A.

(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024 a rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad glaswelltir cymhwysol fynd gydag ef.

(3) Rhaid cyflwyno’r hysbysiad a’r cynllun rheoli maethynnau uwch sy’n mynd gydag ef i CNC drwy e-bost(3).

Diwygio rheoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau)

6.  Yn rheoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau)—

(a)ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Ac eithrio pan fo paragraff 26 o Atodlen 1A yn gymwys,”, a

(b)hepgorer paragraff 4.

Diwygio rheoliadau 24, 30, 31, 32, 47 ac Atodlen 6

7.  Yn y rheoliadau a ganlyn, yn lle “CANC” rhodder “CNC”—

(a)rheoliad 24(1)(c)(i),

(b)rheoliad 30, ym mhob lle y mae’n digwydd,

(c)rheoliad 31, ym mhob lle y mae’n digwydd,

(d)rheoliad 32(2),

(e)rheoliad 47, ac

(f)Atodlen 6, ym mhob lle y mae’n digwydd.

Mewnosod Atodlen 1A newydd (gofynion rheoli maethynnau uwch)

8.  Ar ôl Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), mewnosoder Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Dirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023

9.  Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023(4) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

14 December 2023

Rheoliad 8

YR ATODLEN

Rheoliadau 4A a 4B

ATODLEN 1AGofynion rheoli maethynnau uwch

Cymhwyso Atodlen 1A

1.  Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i ddeiliad daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

Dehongli

2.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “dadansoddiad samplu pridd” (“soil sampling analysis”) yw dadansoddiad o sampl pridd a wneir gan labordy profi pridd i ddadansoddi priddoedd ar gyfer ffosfforws;

ystyr “mynegai ffosfforws pridd” (“soil phosphorus index”) yw cyfeiriad at y rhif mynegai a neilltuwyd i’r pridd yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen hon, i ddynodi lefel y ffosfforws sydd ar gael o’r pridd.

Tail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol

3.  Rhaid i’r meddiannydd sicrhau mai’r unig dail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yw tail a gynhyrchir gan y da byw ar y daliad.

Dadansoddiad samplu pridd

4.(1) Rhaid i’r meddiannydd, at ddibenion pennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd, ymgymryd â dadansoddiad samplu pridd o bob pumed hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd.

(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau dadansoddiad samplu pridd blaenorol o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cynhaliwyd y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2020 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2023.

(3) Pan na fo dadansoddiad samplu pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd wedi ei gynnal o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid cynnal y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024.

Pennu’r mynegai ffosfforws pridd

5.  Rhaid i’r meddiannydd bennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd trwy ddefnyddio canlyniadau’r dadansoddiad samplu pridd o dan baragraff 4 a’r gwerthoedd yn y tabl a ganlyn.

Tabl 1 – Mynegai ffosfforws
Mynegai ffosfforwsFfosfforws (P) mg / L Olsen (P)
00-9
110-15
216-25
326-45
446-70
571-100
6101-140
7141-200
8201-280
9Dros 280

Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith ffosffad

6.  Yn ogystal â llunio cynlluniau taenu nitrogen o dan reoliad 6 (cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen) rhaid i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024—

(a)cyfrifo’r maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd, a

(b)llunio cynllun (“cynllun rheoli maethynnau uwch”) ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol.

Gofynion ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau uwch

7.(1) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad—

(a)cynnwys map risg, a lunnir yn unol â pharagraff 11(1), sy’n nodi lleoliad y caeau y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy, a

(b)datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun y math o wrtaith sydd i’w ddefnyddio.

(2) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch gofnodi—

(a)y mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd,

(b)y maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd,

(c)faint o nitrogen (kg) sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu yn ystod y cyfnod perthnasol,

(d)faint o ffosffad (kg) sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y cyfnod perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag—

(i)tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) o Atodlen 1,

(ii)samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu

(iii)dadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,

(e)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o nitrogen sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y cyfnod perthnasol), ac

(f)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddiben gwrteithio’r cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol).

Cyfanswm y ffosfforws sydd i’w daenu ar ddaliad yn ystod y cyfnod perthnasol

8.  Ni waeth beth fo’r ffigur a gofnodir yn y cynllun rheoli maethynnau uwch yn unol â pharagraff 7(2)(b), rhaid i’r meddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—

(a)y ffosffad o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, a

(b)y ffosffad o dail organig, yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo,

yn fwy, yn ystod y cyfnod perthnasol, na’r terfynau a bennir ym mharagraff 9.

Terfynau ffosffad uchaf fesul cnwd

9.(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff cyfanswm y ffosffad a daenir ar unrhyw gnwd a restrir yng ngholofn gyntaf unrhyw un o’r tablau isod fod yn fwy na’r ffigur o dan y rhif mynegai ffosfforws pridd cymwys yn yr un tabl.

Tabl 2 - Uchafsymiau ffosffad ar gyfer porfa
Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha)
01234+
Wrth i’r borfa ymsefydlu1208050300
Pori80502000
Gwair80553000
Silwair
Toriad cyntaf1007040200
Ail doriad25252500
Trydydd toriad15151500
Pedwerydd toriad10101000
Tabl 3 - Uchafsymiau ffosffad ar gyfer cnydau eraill
Mynegai-P012345+
(a)

Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol.

CnwdFfosffad (kg / ha)
Cnydau porthi
Indrawn porthi11585552000
Ydau cnwd cyfan1158555000
Swêds a maip porthi (wedi eu codi)1057545000
Betys porthiant (wedi eu codi)1209060000
Rêp, swêds a maip sofl porthi (a borir)855525000
Cêl (a borir)805020000
Rhygwellt a heuir ar gyfer hadau906030000
Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori)
Gwenith y gaeaf1108050000
Rhygwenith y gaeaf1259565000
Haidd y gaeaf1108050000
Haidd y gwanwyn1057545000
Gwenith y gwanwyn/rhygwenith y gwanwyn/rhyg/ceirch1108050000
Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith)
Gwenith y gaeaf1158555000
Rhygwenith y gaeaf13010070000
Haidd y gaeaf1158555000
Haidd y gwanwyn>1057545000
Gwenith y gwanwyn1108050000
Rhygwenith y gwanwyn/rhyg1108050000
Ceirch1158555000
Hadau olew
Rêp had olew y gaeaf1108050000
Rêp had olew y gwanwyn neu had llin906030000
Pys (sych a dringo) a ffa1007040000
Betys siwgr1108050000
Tatws25021017010000
Llysiau a bylbiau
Merllys (ymsefydlu)175150125100750
Merllys (y blynyddoedd dilynol ar ôl ymsefydlu)75755050250
Ysgewyll Brwsel, bresych storio, bresych pen a bresych llyfnddail2001501005000
Blodfresych a calabrese2001501005000
Seleri250200150100500
Pys (cynhaeaf y farchnad)185135853500
Ffa llydan, corffa a ffa dringo2001501005000
Radis ac india-corn175125752500
Letys a dail berwr25020015010060(a)60(a)
Winwns a chennin2001501005060(a)60(a)
Betys (coch) swêds, maip, pannas a moron2001501005000
Bylbiau a blodau bwlb2001501005000
Coriander a mintys175125752500
Courgettes175125752500
Ffrwythau a gwinwydd cyn plannu200100505000
Hopys cyn plannu250175125100500
Ffrwythau coed sefydledig8040202000
Cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair, mafon, mwyar logan, mafonfwyar, mwyar duon, mefus a gwinwydd11070404000
Hopys sefydledig250200150100500

(2) Caniateir taenu ffosffad ar borfa a chnydau eraill uwchben y gwerthoedd a nodir yn y tablau uchod yn ddarostyngedig i gael cyngor ysgrifenedig ymlaen llaw gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(5).

Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y cyfnod perthnasol

10.(1) Yn ogystal â’r wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 7 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd—

(a)cyn taenu tail organig yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi cyfanswm y ffosffad (kg) sydd yn y tail organig; a

(b)cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—

(i)faint o ffosffad (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir), a

(ii)y mis arfaethedig ar gyfer taenu.

Mapiau risg – gofynion ychwanegol

11.(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 11 (mapiau risg), rhaid i’r map risg—

(a)dangos pob cae wedi ei farcio â rhif cyfeirnod neu rif i alluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd mewn cynlluniau gwrteithio,

(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad, ac

(c)cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024.

(2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map o fewn un mis i’r newid, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.

Cynnal y daliad fel daliad glaswelltir cymhwysol

12.  Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa yn ystod y cyfnod perthnasol.

Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad

13.  Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson—

(a)yn aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd ar y daliad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024,

(b)yn aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr 2024 ar y daliad pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, ac

(c)yn aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd ar y daliad cyn 16 Ionawr 2024 pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn dod i ben â 15 Ionawr 2024.

Hau cnydau yn dilyn porfa ar y daliad

14.  Pan fo unrhyw borfa ar y daliad yn cael ei haredig yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid—

(a)hau’r tir â chnwd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa, neu

(b)hau’r tir â phorfa o fewn chwe wythnos, sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.

Cylchdro cnydau ar y daliad

15.  Ni chaiff cylchdro cnydau ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gynnwys codlysiau na phlanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% ohono yn feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi ei hau oddi tanynt.

Cofnodi maint y daliad

16.(1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol ac ardal y borfa o fewn y daliad erbyn 1 Mawrth 2024.

(2) Os bydd maint y daliad neu ardal y borfa o fewn iddo yn newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn un mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.

Cofnod o nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid

17.(1) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) disgwyliedig y da byw sydd i’w cadw ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol.

(2) Yn dilyn y gofynion i wneud cofnod yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad (kg) mewn tail y disgwylir i’r da byw ar y daliad ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.

(3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2024.

Tail da byw y bwriedir ei anfon o’r daliad

18.(1) Rhaid i’r meddiannydd—

(a)gwneud cofnod o fath a maint y tail da byw (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys) y bwriedir ei anfon o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, a

(b)asesu a chofnodi maint y nitrogen (kg) sydd yn y tail da byw a gofnodir o dan baragraff (a) yn unol â rheoliad 36(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.

(2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud erbyn 1 Mawrth 2024.

Cofnodion o’r cnydau a heuwyd

19.  Yn ogystal â gofynion rheoliad 39 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd), os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r meddiannydd o fewn un wythnos i hau cnwd gofnodi—

(a)y cnwd a heuir, a

(b)dyddiad ei hau.

Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad

20.  Yn ogystal â gofynion rheoliad 40 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—

(a)o fewn un wythnos i daenu tail organig, gyfanswm y cynnwys ffosfforws (kg), a

(b)o fewn un wythnos i daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—

(i)dyddiad ei daenu, a

(ii)maint y ffosffad a daenwyd (kg).

Cofnodi’r dyddiad aredig

21.  Yn ogystal â gofynion rheoliad 41 (cofnodion dilynol), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi o fewn un wythnos i aredig porfa ar y daliad ddyddiad yr aredig hwnnw.

Cyfrifon gwrteithio

22.(1) Rhaid i’r meddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y cyfnod perthnasol i CNC erbyn 31 Mawrth 2025.

(2) Rhaid cyflwyno’r cyfrifon gwrteithio i CNC drwy e-bost(6).

(3) Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—

(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad mewn hectarau;

(b)arwynebedd y daliad mewn hectarau a orchuddir gan—

(i)gwenith y gaeaf,

(ii)gwenith y gwanwyn,

(iii)haidd y gaeaf,

(iv)haidd y gwanwyn,

(v)rêp had olew y gaeaf,

(vi)betys siwgr,

(vii)tatws,

(viii)indrawn porthi,

(ix)porfa, a

(x)cnydau eraill;

(c)nifer a chategori yr anifeiliaid a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;

(d)maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;

(e)maint (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys), math a nodweddion y tail da byw a anfonwyd o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;

(f)maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e), wedi ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 1;

(g)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;

(h)pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl stociau gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;

(i)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol;

(j)pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol.

Mesurau diogelu pridd

23.(1) Rhaid i’r meddiannydd ddiogelu yr holl bridd drwy sicrhau bod yr holl dir wedi ei orchuddio â chnydau, soflau, gweddillion neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn creu risg sylweddol o erydiad pridd a risg sylweddol y bydd nitrogen a ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb.

(2) Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio dyrnwr medi, cynaeafwr porthiant neu beiriant torri porfa, rhaid i’r meddiannydd sicrhau y bodlonir un o’r amodau a ganlyn ar y tir hwnnw bob amser, drwy gydol y cyfnod perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024—

(a)bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn dal yn y tir, neu

(b)bod y tir yn cael ei baratoi fel gwely hadau ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 o ddiwrnodau i gynaeafu, gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu, ac—

(i)bod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r gwely hadau gael ei baratoi yn derfynol, neu

(ii)pe bai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 niwrnod yn arwain at risg sylweddol o erydu pridd, ac o nitrogen neu ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb, fod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r tir beidio â bod yn ddyfrlawn.

Lleoliadau safleoedd bwydo ac yfed atodol ar gyfer da byw

24.(1) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster bwydo atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 20 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.

(2) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster yfed atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.

Taenu slyri yn ystod y cyfnod perthnasol

25.  Os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu slyri ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid defnyddio cyfarpar taenu manwl ac eithrio pan na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

Taenu tail organig ger dŵr wyneb yn ystod y cyfnod perthnasol

26.  Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn taenu tail organig o fewn 15 metr i ddŵr wyneb oni bai ei fod yn defnyddio cyfarpar taenu manwl ac os felly ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/77 (Cy. 20)) (“Rheoliadau 2021”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) o Reoliadau 2021. Mae’n newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) o 1 Ionawr 2024 i 1 Ionawr 2025 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”) fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa (“daliadau glaswelltir cymhwysol”). Mae hyn yn golygu nad yw’r terfyn o ran cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw ar gyfer yr holl ddaliad (170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau) yn rheoliad 4 o Reoliadau 2021 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd 1 Ionawr 2025.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 3 (dehongli) o Reoliadau 2021 drwy fewnosod diffiniadau o’r termau “cynllun rheoli maethynnau uwch”, “cyfarpar taenu manwl”, “daliad glaswelltir cymhwysol” a “cyfnod perthnasol”. Mae hefyd yn rhoi diffiniad o “CNC” yn lle “CANC”.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 4A a 4B yn Rheoliadau 2021. Mae rheoliad 4A (dodi tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar ddaliadau glaswelltir cymhwysol yn ystod y cyfnod perthnasol) yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau, ar gyfer blwyddyn galendr 2024 (“y cyfnod perthnasol”), fod arwynebedd y daliad (mewn hectarau) yn fwy na swm neu’n hafal i swm cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad wedi ei rannu â 250, plws cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad wedi ei rannu â 170. Diben y cyfrifiad hwn yw cyfyngu ar gyfanswm y nitrogen mewn tail da byw y caiff meddiannydd glaswelltir cymhwysol ei ddodi ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae’n sicrhau, pan nad yw meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol ond yn dodi tail da byw sy’n pori ar y daliad, na chaiff ddodi mwy na 250kg o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori fesul hectar yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae hefyd yn sicrhau, pan nad yw meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol ond yn dodi tail da byw nad ydynt yn pori ar y daliad, na chaiff ddodi mwy na 170kg o nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori fesul hectar yn ystod y cyfnod perthnasol. Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn dodi tail da byw sy’n pori a thail da byw nad ydynt yn pori ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, mae’r cyfrifiad hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer addasu dodi’r naill a’r llall ar sail pro-rata.

Mae rheoliad 4A(2) yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol, pan fo’n bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, gydymffurfio â gofynion uwch ychwanegol o ran rheoli maethynnau a bennir o dan Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) a hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”). Mae Rheoliad 4B (gofynion hysbysu) yn nodi’r gofynion hysbysu y mae rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol gydymffurfio â hwy pan fydd yn hysbysu CNC.

Mae rheoliad 6 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau) o Reoliadau 2021 i gynorthwyo gydag eglurder.

Mae rheoliad 7 yn rhoi cyfeiriadau at “CNC” yn lle cyfeiriadau at “CANC” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos yn y Rheoliadau. Mae hyn o ganlyniad i roi diffiniad o “CNC” yn lle’r diffiniad o “CANC” o dan reoliad 3.

Mae rheoliad 8 yn mewnosod Atodlen newydd 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) yn Rheoliadau 2021 sy’n nodi’r gofynion rheoli maethynnau uwch ychwanegol sydd i’w bodloni gan feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol os yw’r meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

1991 p. 57. Diwygiwyd adran 92 gan adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraffau 128 a 144 o Atodlen 22 iddi, a chan O.S. 2010/675 ac O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae diwygiadau i adran 219 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 92 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran y rhannau hynny o Gymru sydd y tu allan i ddalgylchoedd afon Dyfrdwy, afon Gwy ac afon Hafren. O ran y rhannau hynny o Gymru sydd o fewn y dalgylchoedd hynny, mae swyddogaethau o dan adran 92 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 92 a 219 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(5)

Gweinyddir y cynllun gan Basis Registration Ltd, a gellir cael rhestr o bersonau cymwysedig drwy wneud cais i’r cwmni, neu ar ei wefan, www.basis-reg.com.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources