- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
26 Mawrth 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) a (3)(a) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Mawrth 2023—
(a)adran 23(3);
(b)Atodlen 2.
3.—(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023—
(a)adran 1;
(b)adran 2;
(c)adran 3;
(d)adran 5;
(e)adran 6;
(f)adran 7;
(g)adran 8;
(h)adran 9;
(i)adran 10;
(j)adran 13;
(k)adran 14;
(l)adran 15;
(m)adran 16;
(n)adran 17;
(o)adran 18;
(p)adran 20;
(q)adran 23(1) a (2);
(r)adran 27;
(s)paragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 1;
(t)Atodlen 3.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adran 4;
(b)adran 11.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 29 Mawrth 2023—
(a)adran 23(3) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);
(b)Atodlen 2 (trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau).
Mae erthygl 3(1) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023—
(a)adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf hon);
(b)adran 2 (ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd);
(c)adran 3 (pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys);
(d)adran 5 (darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad);
(e)adran 6 (cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5);
(f)adran 7 (Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd);
(g)adran 8 (cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7);
(h)adran 9 (cyfrinachedd);
(i)adran 10 (canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru);
(j)adran 13 (amcan cyffredinol);
(k)adran 14 (ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi);
(l)adran 15 (sylwadau i gyrff cyhoeddus);
(m)adran 16 (gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethau);
(n)adran 17 (dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd);
(o)adran 18 (dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd);
(p)adran 20 (cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIG);
(q)adran 23(1) a (2) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);
(r)adran 27 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(s)paragraffau 6 (penodi’r aelod cyswllt), 7 (telerau aelodaeth gyswllt etc.) ac 8 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol) o Atodlen 1 (Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru);
(t)Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
Mae erthygl 3(2) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes wedi eu cychwyn—
(a)adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd);
(b)adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 24 | 8 Mawrth 2022 | 2022/208 (Cy. 66) (C. 9) |
Adran 26 | 8 Mawrth 2022 | 2022/208 (Cy. 66) (C. 9) |
Adran 12 | 1 Ebrill 2022 | 2022/208 (Cy. 66) (C. 9) |
Adran 19 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2022 | 2022/208 (Cy. 66) (C. 9) |
Adran 21 | 1 Ebrill 2022 | 2022/208 (Cy. 66) (C. 9) |
Adran 22 | 1 Ebrill 2022 | 2022/208 (Cy. 66) (C. 9) |
Adran 4 (yn rhannol) | 7 Mawrth 2023 | 2023/259 (Cy. 36) (C. 13) |
Adran 11 (yn rhannol) | 7 Mawrth 2023 | 2023/259 (Cy. 36) (C. 13) |
Adran 25 | 7 Mawrth 2023 | 2023/259 (Cy. 36) (C. 13) |
Adran 28 | 7 Mawrth 2023 | 2023/259 (Cy. 36) (C. 13) |
Atodlen 1 (ac eithrio paragraffau 6, 7, 8 a 22 o’r Atodlen honno) | 1 Ebrill 2022 | 2022/208 (Cy. 66) (C. 9) |
Paragraff 22 o Atodlen 1 | 1 Hydref 2022 | 2022/996 (Cy. 212)(2) |
Gweler hefyd adran 29(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).
Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: