- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cydraddoldeb, Cymru
Gwnaed
28 Mehefin 2023
Yn dod i rym
4 Medi 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 151(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1).
Yn unol ag adran 152(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Yn unol ag adran 209(2), (3)(b) a (6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Medi 2023.
2. Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010—
(a)hepgorer “The Higher Education Funding Council for Wales or Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder “The Commission for Tertiary Education and Research or Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.”
3. Hyd nes bod adran 23 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022(2) yn dod i rym, mae’r cyfeiriad at y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o awdurdodau Cymreig perthnasol yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ganlyniad i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, sy’n diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn creu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: