Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 10 (Cy. 4)

Landlord A Thenant, Cymru

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

Gwnaed

8 Ionawr 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Ionawr 2024

Yn dod i rym

7 Chwefror 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cymhwyso, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 7 Chwefror 2024.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;

ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2; y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(3);

ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;

ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu gallu cynhyrchiol tir

2.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2023, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.

(3Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2022 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2023, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

8 Ionawr 2024

Erthygl 2

YR ATODLENUnedau cynhyrchu rhagnodedig a phennu incwm blynyddol net

colofn 1

Defnydd ffermio

colofn 2

Uned gynhyrchu

colofn 3

Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)

(1)

Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.

1. Da byw
Buchod godrobuwch967.00
Buchod bridio cig eidion:ar dir mewn ardal lai ffafriolbuwch5.00
ar dir arallbuwch-28.00
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)y pen-24.00 (1)
Buchod llaeth i lenwi bylchauy pen154.00 (1)
Mamogiaid:ar dir mewn ardal lai ffafriolmamog-15.00
ar dir arallmamog10.00
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)y pen12.00
Moch:hychod a banwesod torroghwch neu fanwes265.00
moch porcy pen9.90
moch torriy pen13.00
moch bacwny pen15.60
Dofednod:ieir dodwyaderyn4.60
brwyliaidaderyn0.30
cywennod ar ddodwyaderyn0.90
Tyrcwn Nadoligaderyn14.90
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar334.00
Ffahectar181.00
Rêp had olewhectar164.00
Pys sychhectar200.00
Tatws:cynnar cyntafhectar2,650.00
prif gnwd (gan gynnwys hadyd)hectar3,060.00
Betys siwgrhectar620.00
Gwenithhectar540.00
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllanhectar4,460.00
Ffrwythau meddalhectar17,870.00
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2022, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013tir dan anfantais ddifrifolhectar116.18
tir dan anfantaishectar116.07
pob tir arallhectar50.76

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2023 i 11 Medi 2024 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).

Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986; yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn (fel y’i diffinnir ym mharagraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986).

Wrth bennu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir o dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2022, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin. Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais a thir dan anfantais ddifrifol, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1986 p. 5; diffinnir “the Minister” yn adran 96(1) o’r Ddeddf honno.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

EUR 2013/1307, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1556; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Ymgorfforwyd y Rheoliad hwn mewn cyfraith ddomestig gan adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources