Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 316 (Cy. 56)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

6 Mawrth 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Mawrth 2024

Yn dod i rym

8 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3), (4)(b), (c) a (d) a (5)(b), 210(7) a 214(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2024.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau UCD 2003” yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003(3).

Gwaharddiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 8 Ebrill 2024.

(2Mae Rheoliadau UCD 2003, fel yr oeddent cyn eu diwygio gan y Rheoliadau hyn, yn parhau i fod yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd cyn 8 Ebrill 2024.

Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau UCD 2003

3.—(1Mae rheoliad 3 (y corff cyfrifol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle “yr awdurdod lleol sy’n cynnal” rhodder “pwyllgor rheoli”.

(3Hepgorer “am gyfnod penodedig”.

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau UCD 2003

4.—(1Mae rheoliad 5 (gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu’r person perthnasol a’r awdurdod lleol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, ar ôl “person perthnasol” mewnosoder “, y pwyllgor rheoli”.

(3Ym mharagraff (1)—

(a)hepgorer “am gyfnod penodedig”;

(b)yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol”;

(c)yn is-baragraff (c)—

(i)ar ôl “y caiff” mewnosoder “y person perthnasol”, a

(ii)yn lle “awdurdod lleol”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “pwyllgor rheoli”.

(4Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu’r person perthnasol—

(a)o’r penderfyniad, a

(b)o’r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) o baragraff (1).

(5Yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder—

(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os bydd yr athro neu’r athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion—

(a)yn gwahardd unrhyw ddisgybl mewn amgylchiadau pan fyddai’r disgybl, yn sgil y gwaharddiad—

(i)yn cael ei wahardd o’r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

(ii)yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,

(b)yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu

(c)yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl yn waharddiad parhaol.

(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed hysbysu’r pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol o’r materion canlynol—

(a)cyfnod y gwaharddiad neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd felly, neu

(b)penderfyniad yr athro neu’r athrawes â gofal y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol,

ac (yn y naill achos neu’r llall) y rhesymau drosto.

(6Hepgorer paragraff (4).

(7Ym mharagraff (5)—

(a)ar ôl “hysbysu’r” mewnosoder “pwyllgor rheoli a’r”;

(b)yn lle “paragraffau (2) neu (3)” rhodder “paragraff (2)”.

Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau UCD 2003

5.—(1Mae rheoliad 6 (gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, yn lle “Chynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

(3Ym mharagraff (1)—

(a)yn lle “athro neu’r athrawes â gofal” rhodder “pwyllgor rheoli”;

(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)pan fo gan y disgybl sydd wedi’i wahardd anghenion dysgu ychwanegol, neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol, a yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol, neu a oedd ar adeg y gwaharddiad—

(i)yn penderfynu a oes gan y disgybl anghenion dysgu ychwanegol,

(ii)yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y disgybl, neu

(iii)yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y disgybl,

yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(4);.

(4Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, os byddant yn gofyn amdani, y mae’r awdurdod lleol wedi’i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(3) neu 5(5) neu oddi wrth bwyllgor rheoli o dan reoliad 6(1).

Diwygio rheoliad 7 o Reoliadau UCD 2003

6.—(1Mae rheoliad 7 (swyddogaethau awdurdod lleol mewn perthynas â disgyblion wedi’u gwahardd am gyfnod penodedig) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd—

(a)yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

(b)yn lle “wedi’u gwahardd am gyfnod penodedig” rhodder “sydd wedi’u gwahardd”.

(3Yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir y pwyllgor rheoli o’r canlynol o dan reoliad 5(3)—

(a)gwahardd disgybl yn barhaol,

(b)penderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl yn waharddiad parhaol, neu

(c)gwahardd unrhyw ddisgybl, a’r amgylchiadau yw y byddai’r disgybl, yn sgil y gwaharddiad—

(i)yn cael ei wahardd o’r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na 15 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

(ii)yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus.

(4Ym mharagraff (2)—

(a)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

(b)yn is-baragraff (b)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (b)(i), yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “a”;

(iii)ar ddiwedd paragraff (iii), yn lle “;” rhodder “, a”;

(iv)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)gan yr awdurdod lleol;;

(c)yn is-baragraff (c)—

(i)yn lle “caniatáu” rhodder “cynnull cyfarfod a chaniatáu”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “a”;

(iii)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

a

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol, a enwebwyd gan yr awdurdod,;

(iv)yn lle “i gyfarfod â’r awdurdod lleol” rhodder “i’r cyfarfod hwnnw”.

(5Ym mharagraff (3)—

(a)yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

(b)yn y testun Saesneg, yn lle “he or she” rhodder “the pupil”.

(6Ym mharagraff (4)—

(a)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”;

(b)yn is-baragraff (b), ar ôl “person perthnasol” mewnosoder “a’r awdurdod lleol”.

(7Ym mharagraff (5), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”.

(8Ym mharagraff (6)—

(a)yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”;

(b)yn lle’r geiriau o “hysbysu’r person perthnasol” hyd at y diwedd rhodder—

yn ddi-oed—

(a)hysbysu’r person perthnasol, yr athro neu’r athrawes â gofal a’r awdurdod lleol o’i benderfyniad, a

(b)yn ychwanegol, yn achos disgybl sydd wedi’i wahardd yn barhaol, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person perthnasol, sy’n cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy’n datgan y materion a ganlyn—

(i)y rhesymau dros y penderfyniad,

(ii)hawl y person perthnasol i apelio yn erbyn y penderfyniad,

(iii)y person y dylai’r person perthnasol roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,

(iv)bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, a

(v)y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.

(9Ym mharagraff (7)(b), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”.

(10Ym mharagraff (8)—

(a)yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

(b)yn is-baragraff (b), ar ôl “yn achos gwaharddiad” mewnosoder “parhaol neu waharddiad”;

(c)yn y geiriau ar ôl is-baragraff (c), yn lle “5(2)” rhodder “5(3)”.

(11Ym mharagraff (9)—

(a)hepgorer “am gyfnod penodedig”;

(b)yn y testun Saesneg, yn lle “he or she” rhodder “the pupil”;

(c)yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”.

(12Ym mharagraff (10), yn lle “corff llywodraethu” rhodder “pwyllgor rheoli”.

(13Ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11) Caniateir rhoi’r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) naill ai—

(a)drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu

(b)drwy ei anfon drwy’r post dosbarth cyntaf, mewn amlen wedi’i chyfeirio’n briodol a’i rhagdalu, i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau UCD 2003

7.—(1Mae rheoliad 8 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), yn lle “yr athro neu’r athrawes â gofal o dan adran 52(2) i wahardd disgybl yn barhaol” rhodder “y pwyllgor rheoli o dan reoliad 7 i beidio â derbyn yn ôl ddisgybl sydd wedi’i wahardd yn barhaol”.

(3Ym mharagraff (3)—

(a)yn lle “adran 52(2) o Ddeddf 2002” rhodder “reoliad 7”;

(b)yn y testun Cymraeg, yn lle “herbyn” rhodder “erbyn”;

(c)ar y diwedd mewnosoder “, neu’r gwaharddiad neu’r penderfyniad gan yr athro neu’r athrawes â gofal yr oedd y penderfyniad hwnnw yn ymwneud ag ef”.

(4Ym mharagraff (4), ar ôl “yr athro neu’r athrawes â gofal” mewnosoder “, y pwyllgor rheoli”.

(5Ym mharagraff (5)(c), yn lle “i’w dderbyn” rhodder “i dderbyn y disgybl”.

Diwygio rheoliad 9 o Reoliadau UCD 2003

8.—(1Mae rheoliad 9 (gwahardd disgyblion: canllawiau) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)y pwyllgor rheoli,.

(3Ym mharagraff (2), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.

Diwygio rheoliad 9A o Reoliadau UCD 2003

9.  Yn is-baragraff (b) o reoliad 9A (gwaharddiadau — safon y prawf) o Reoliadau UCD 2003, yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli.

Diwygio’r Atodlen i Reoliadau UCD 2003

10.—(1Mae’r Atodlen (addasiadau i’r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003) i Reoliadau UCD 2003 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer paragraff 1.

(3Ar y dechrau, mewnosoder paragraff 1A—

1A.  Ym mharagraff 1(1)—

(a)yn lle “6(1)” rhoddir “8(1)”;

(b)yn lle “6(6)(b)” rhoddir “7(6)(b)”.

(4Hepgorer paragraff 2.

(5Ym mharagraff 4—

(a)ym mharagraff (a) o’r addasiad i baragraff 2(7), hepgorer “(os oes un)”;

(b)ym mharagraff (ch)(ii) o’r addasiad i baragraff 2(7), yn lle “ei wahardd” rhodder “wahardd y disgybl”;

(c)yn y geiriau ar ôl paragraff (ch)(ii) o’r addasiad i baragraff 2(7), yn lle “ei allu” rhodder “allu’r person”.

(6Ym mharagraff 5—

(a)ar ddiwedd yr addasiad i baragraff 10(2)(a) hepgorer “a”;

(b)ar ôl yr addasiad i baragraff 10(2)(a) mewnosoder—

(aa)i’r pwyllgor rheoli roi sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar, a;

(c)ym mharagraff (b) o’r addasiad i baragraff 10(2), hepgorer “yn ychwanegol at y datganiad y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei gyflwyno i’r panel o dan is-baragraff (1),”.

(7Yn lle paragraff 6 rhodder—

6.  Ym mharagraff 14(a), yn lle “y corff llywodraethu a’r pennaeth” rhodder “y pwyllgor rheoli a’r athro neu’r athrawes â gofal”.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau UCD 2003”).

Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 8 Ebrill 2024.

Mae rheoliad 3 o Reoliadau UCD 2003 yn rhagnodi mai’r awdurdod lleol yw’r corff cyfrifol o dan adran 52(5) o Ddeddf Addysg 2002 ar gyfer ystyried a ddylid derbyn disgybl yn ôl mewn perthynas â gwaharddiad am gyfnod penodedig o uned cyfeirio disgyblion (“UCD”). Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau UCD 2003 i ragnodi yn lle hynny mai pwyllgor rheoli UCD yw’r corff cyfrifol, ac yn gwneud hyn mewn perthynas â gwaharddiadau am gyfnod penodedig a gwaharddiadau parhaol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau UCD 2003. Mae’n darparu bod dyletswydd hefyd bellach ar yr athro neu’r athrawes â gofal i roi gwybod i’r person perthnasol y caniateir i’r person perthnasol (a’r disgybl sydd wedi ei wahardd, pan nad y disgybl sydd wedi ei wahardd yw’r person perthnasol) gyflwyno sylwadau i’r pwyllgor rheoli pan fo disgybl wedi ei wahardd yn barhaol. Mae’n hepgor y gofyniad i’r athro neu’r athrawes â gofal hysbysu’r person perthnasol am ei hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol, gan fod y Rheoliadau hyn bellach yn darparu mai hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor rheoli i beidio â derbyn disgybl yn ôl o dan reoliad 7 o Reoliadau UCD 2003 yw’r hawl. Mae rheoliad 4 yn darparu ymhellach fod rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal roi gwybod i’r pwyllgor rheoli yn ogystal â’r awdurdod lleol os yw’r gwaharddiad yn barhaol, os bydd yn golygu y bydd y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus neu os bydd yn mynd â chyfanswm y gwaharddiadau ar gyfer y disgybl hwnnw i dros bum niwrnod mewn tymor.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau UCD 2003 i’w gwneud yn ddyletswydd ar y pwyllgor rheoli i ddarparu ystod o wybodaeth sy’n ymwneud â gwaharddiadau i’r awdurdod lleol bob tymor.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau UCD 2003 i adlewyrchu mai rôl y pwyllgor rheoli yn hytrach na’r awdurdod lleol yw ystyried a ddylid derbyn disgybl yn ôl. Mae hefyd yn estyn yr achosion pan fo’n ofynnol i’r pwyllgor rheoli ystyried a ddylid derbyn disgybl yn ôl i gynnwys achosion pan fo disgybl wedi ei wahardd yn barhaol. Os bydd yn penderfynu na ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu’n penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i’r athro neu’r athrawes â gofal sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r disgybl gael ei dderbyn yn ôl, rhaid i’r pwyllgor rheoli roi hysbysiad i’r person perthnasol, sy’n rhoi manylion ynghylch ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae rheoliad 8 o Reoliadau UCD 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wneud trefniadau i’r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad gan yr athro neu’r athrawes â gofal i wahardd disgybl yn barhaol. Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau UCD 2003 fel bod yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd yn lle hynny i wneud trefniadau i’r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad gan y pwyllgor rheoli i beidio â derbyn disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol yn ôl.

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu pwyllgorau rheoli at y rhestr o’r rhai y mae’n ofynnol iddynt roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i’r pwyllgor rheoli sefydlu ffeithiau yn ôl pwysau tebygolrwydd.

Mae rheoliad 10 yn diwygio’r Atodlen i Reoliadau UCD 2003 i adlewyrchu mai yn erbyn penderfyniad y pwyllgor rheoli i beidio â derbyn yn ôl ddisgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol y mae’r apêl, yn hytrach nag yn erbyn penderfyniad yr athro neu’r athrawes â gofal i wahardd y disgybl yn barhaol. Mae’r Atodlen hefyd wedi ei diwygio i ddarparu bod gan y pwyllgor rheoli hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a chyflwyno sylwadau llafar gerbron y panel apêl, a hawl i gael gwybod am benderfyniad y panel.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 32. Gweler adran 212(1) am ystyr “regulations” a “prescribed”. Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(1), (3)(c)(i) a (ii) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources