Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 339 (Cy. 63)

Arbed Ynni, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

8 Mawrth 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

11 Mawrth 2024

Yn dod i rym

1 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990(1).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011(2).

Diwygio’r prif Reoliadau

3.  Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 6.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

4.  Yn rheoliad 2—

(a)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog” (“households below average income report”) yw’r data a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar incymau aelwydydd ac unigolion o dan adran 4 o Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith 2016(3);

ystyr “aelwyd incwm is” (“lower income household”) yw aelwyd sydd ag incwm net, ac eithrio unrhyw incwm o fudd-daliadau neu daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd, sy’n llai na 60% o incwm cyfwerthedig net canolrifol aelwydydd cyn costau tai yn seiliedig ar y data diweddaraf a gyhoeddwyd yn yr adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog;

ystyr “meini prawf cymhwystra iechyd” (“health eligibility criteria”) yw person sy’n byw â chyflwr anadlol cronig, cyflwr cylchrediad y gwaed cronig neu gyflwr iechyd meddwl cronig;;;

(b)yn y diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd”—

(i)ym mharagraff (e), ar y diwedd hepgorer “ac”;

(ii)ym mharagraff (f), ar y diwedd mewnosoder “ac”;

(iii)ar ôl paragraff (f), mewnosoder—

(g)lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(4));.

Diwygio rheoliad 5 (meini prawf cymhwystra)

5.  Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)os yw’r ceisydd yn feddiannydd ar yr annedd ac—

(i)mae’n cael budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd, neu

(ii)mae o aelwyd incwm is; ac;

(ii)yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)os yw’r asiantaeth ardal wedi ei bodloni bod dosbarthiad ased yr annedd—

(i)yn 54 neu lai, neu

(ii)yn 68 neu lai pan fo’r ceisydd neu feddiannydd ar yr annedd yn bodloni’r meini prawf cymhwystra iechyd.;

(b)hepgorer paragraff (3A).

Diwygio rheoliad 9 (amodau grant)

6.  Yn rheoliad 9(1)(a)(ii), yn lle “baragraff (2)(a) o’r Rheoliad hwn” rhodder “is-baragraff (i)”.

Darpariaethau trosiannol

7.  Mae’r prif Reoliadau fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2024 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad â chais gweithfeydd a wnaed ond na phenderfynwyd arno eto cyn y dyddiad hwnnw ac mewn perthynas â chais gweithfeydd a wnaed ac a gymeradwywyd cyn y dyddiad hwnnw.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 (O.S. 2011/656) (Cy. 94) (“y prif Reoliadau”) ac maent wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer eu pwerau o dan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (p. 27).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau yn y prif Reoliadau. Mae’n ychwanegu diffiniadau newydd ar gyfer “adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog”, “aelwyd incwm is” a “meini prawf cymhwystra iechyd”. Mae hefyd yn diwygio’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” i gynnwys “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm”.

Mae rheoliad 5 yn diwygio’r meini prawf cymhwystra ar gyfer ceisiadau gweithfeydd o dan y prif Reoliadau. Mae’n estyn cymhwystra i geiswyr o aelwyd incwm is a, phan fo’r ceisydd yn cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd neu pan fo o aelwyd incwm is, i anheddau sydd â dosbarthiad ased o 68 neu lai (dosbarthiad tystysgrif perfformiad ynni o D neu lai) pan fo’r ceisydd neu feddiannydd ar yr annedd yn bodloni’r meini prawf cymhwystra iechyd. Mae hefyd yn diwygio’r prif Reoliadau fel y gellir gwneud mwy nag un cais gweithfeydd llwyddiannus mewn perthynas ag annedd.

Mae rheoliad 6 yn cywiro gwall drafftio yn y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â cheisiadau gweithfeydd a wnaed ond na phenderfynwyd arnynt eto neu a wnaed ac a gymeradwywyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 27. Diwygiwyd adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio >1996 (p. 53). Darparodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fod y swyddogaethau o dan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 i fod yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol ac yn rhydd rhag y gofyniad am gydsyniad y Trysorlys. Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru >2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae paragraff 1 o Atodlen 3A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y’i diwygiwyd gan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cymru >2017 (p. 4), yn darparu bod swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn gydredol ac yn rhydd rhag unrhyw ofyniad am gydsyniad y Trysorlys.

(3)

2016 p. 7. Cyhoeddir cyfres yr adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog ar-lein yn Households below average income (HBAI) statistics - GOV.UK (www.gov.uk) a gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

1995 p. 18. Diwygiwyd adran 1(4) gan adran 59 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30) ac Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i’r adran hon, ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources