- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Pan fo archwilydd meddygol yn cael cais gan gorff penodi i arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol mewn perthynas â marwolaeth, ac nad yw’n ddigon annibynnol mewn perthynas â’r farwolaeth honno, rhaid i’r archwilydd meddygol gydymffurfio â’r camau a nodir ym mharagraffau (2) a (3).
(2) Ni chaiff yr archwilydd meddygol arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol mewn perthynas â’r farwolaeth neu, pan fo’n berthnasol, rhaid iddo roi’r gorau i arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol ar unwaith ar ôl dod yn ymwybodol nad yw’n ddigon annibynnol.
(3) Rhaid i’r archwilydd meddygol, heb oedi afresymol—
(a)gwneud cofnod o ba rai o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (6) sy’n gymwys mewn perthynas â’r farwolaeth, a
(b)hysbysu ei gorff penodi yn ysgrifenedig.
(4) Pan fo archwilydd meddygol yn hysbysu ei gorff penodi o dan baragraff (3)(b), rhaid i’r archwilydd meddygol sicrhau bod y canlynol yn cael ei ddarparu i’r corff penodi—
(a)copi o’r cofnod a wneir yn unol â pharagraff (3)(a),
(b)unrhyw wybodaeth y mae’r archwilydd meddygol wedi ei chael sy’n ymwneud â’r farwolaeth, ac
(c)unrhyw gofnodion a wneir gan yr archwilydd meddygol mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth berthnasol sydd wedi ei harfer mewn perthynas â’r farwolaeth.
(5) At ddibenion paragraffau (1) i (3)—
(a)nid yw archwilydd meddygol yn ddigon annibynnol mewn perthynas â marwolaeth pan fo un neu ragor o’r amgylchiadau ym mharagraff (6) yn gymwys ar adeg y farwolaeth;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at yr ymarferydd meddygol yn bod yn ymwybodol nad yw’n ddigon annibynnol yn cynnwys unrhyw amser pan ddylai’r ymarferydd meddygol fod wedi bod yn ymwybodol o hynny.
(6) Yr amgylchiadau yw—
(a)bod yr archwilydd meddygol yn briod, yn gyn briod, yn bartner sifil neu’n gyn bartner sifil—
(i)i’r person ymadawedig (“Y”),
(ii)i’r ymarferydd perthnasol a fu’n gweini (“YG”), neu
(iii)i unrhyw ymarferydd meddygol perthnasol arall (“YA”),
(b)bod yr archwilydd meddygol, neu y bu’r archwilydd meddygol, yn cyd-fyw ag Y, YG neu YA fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil,
(c)bod yr archwilydd meddygol, neu y bu’r archwilydd meddygol, yn perthyn yn agos i Y, YG neu YA,
(d)bod yr archwilydd meddygol yn credu ei fod wedi gweini ar Y yn ystod oes Y,
(e)bod yr archwilydd meddygol, neu y bu’r archwilydd meddygol, yn bartner, yn gyflogwr, yn gyflogai neu’n gysylltai i Y, YG neu YA,
(f)bod gan yr archwilydd meddygol fuddiant ariannol yn ystad Y, neu
(g)bod gan yr archwilydd meddygol, neu y bu gan yr archwilydd meddygol, unrhyw gysylltiad, perthynas neu gyswllt arall ag Y, YG neu YA i’r graddau bod amheuaeth resymol yn codi ynghylch gallu’r archwilydd meddygol i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau perthnasol yn wrthrychol mewn perthynas â’r farwolaeth.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “yn perthyn yn agos” yw rhiant, chwaer, hanner chwaer, brawd, hanner brawd, mab, merch, ewythr, modryb, tad-cu/taid neu fam-gu/nain, ŵyr neu wyres, cefnder cyfan neu gyfnither gyfan, nai, nith, rhiant yng nghyfraith, ŵyr neu wyres yng nghyfraith, chwaer yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith, mab yng nghyfraith, merch yng nghyfraith, llysblentyn, llys-riant, llysfrawd neu lyschwaer.
(8) Ym mharagraff (7), mae cyfeiriadau at lysberthnasau a pherthnasau yng nghyfraith i’w darllen yn unol ag adran 246 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(1) (dehongli cyfeiriadau statudol at lysblant etc.).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: