Adrannau 71 i 77 – Cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth
85.Mae'r adrannau hyn, sy'n seiliedig ar adran 113A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac Atodlen 7A iddi, yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud cynigion i sefydlu ysgolion cymunedol newydd neu ysgolion arbennig cymunedol newydd i ddarparu addysg chweched dosbarth yn unig; ychwanegu addysg chweched dosbarth at unrhyw ysgol bresennol a gynhelir, neu ddileu'r addysg chweched dosbarth ohonynt; terfynu unrhyw ysgol chweched dosbarth bresennol; a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynigion i ailstrwythuro’r chweched dosbarth.
86.Mae adran 77 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad ag adroddiadau arolygu ar addysg chweched dosbarth. Darparodd adran 113 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac Atodlen 7 iddi bwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion i derfynu ysgol nad oedd ond yn darparu addysg chweched dosbarth, neu i ddileu chweched dosbarth o ysgol. Ysgogwyd y pwerau hyn gan adroddiad arolygu anffafriol gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Gan fod adran 71 yn darparu pŵer annibynnol i Weinidogion Cymru ddwyn cynigion gerbron i newid neu ddileu chweched dosbarth, nid oes bellach angen yr ysgogiadau yn Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Fodd bynnag, mae'r gofyniad i adrodd ar wahân ar ddigonolrwydd addysg chweched dosbarth ysgol fel rhan o arolygiad ysgol cyffredinol, neu arolygiad ardal, yn dal i fod yn berthnasol, ac mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio er mwyn cadw'r gofyniad hwn. Mae'r adrannau hyn yn seiliedig ar y darpariaethau ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.