Adrannau 41 i 44 ac Atodlen 2 - Cynigion y caniateir iddynt gael eu gwneud mewn cysylltiad ag ysgolion yng Nghymru
57.Mae'r adrannau hyn yn rhoi i awdurdodau lleol bŵer i wneud cynigion:
i sefydlu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol arbennig gymunedol;
i derfynu ysgol gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig gymunedol;
i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol arbennig gymunedol;
i wneud newid rheoleiddiedig i gynyddu neu leihau capasiti mewn ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig nad oes ganddi gymeriad crefyddol;
i wneud newid rheoleiddiedig i agor neu gau chweched dosbarth ysgol mewn ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
58.Yn ychwanegol, caiff unrhyw berson wneud cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a chaiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i'r ysgol neu i derfynu'r ysgol.
59.Mae Atodlen 2 yn nodi'n fanwl y newidiadau rheoleiddiedig y caniateir eu gwneud i ysgol. Ymhlith newidiadau eraill mae'n caniatáu ar gyfer:
newidiadau i gapasiti'r ysgol (paragraffau 10 i 14). Wrth bwyso a mesur a yw capasiti'r ysgol wedi newid, mae newidiadau blaenorol i’w hystyried fel na ellir gwneud newidiadau i'r capasiti yn gynyddrannol heb yr angen i wneud cynigion;
cynnydd neu leihad yn ystod oedran yr ysgol (paragraff 5). Nid yw cynnydd yn ystod oedran uchaf ysgol yn caniatáu i chweched dosbarth gael ei ychwanegu. Mae darpariaeth ar wahân yn yr Atodlen (ym mharagraff 6) yn caniatáu i chweched dosbarth gael ei ychwanegu at ysgol (neu ei dynnu oddi wrthi);
newidiadau i gyfrwng iaith yr ysgol (paragraffau 7 ac 8). Mae'r rhain wedi eu diweddaru ers Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 i adlewyrchu cyflwyno'r cyfnod sylfaen a methodolegau addysgu mewn ysgolion cynradd; nid yw'r rhain bellach yn cyfeirio at bynciau ond yn hytrach at ganrannau'r amser a dreulir yn addysgu disgyblion.
60.Mae paragraff 26 o'r Atodlen yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ychwanegu, newid neu ddileu newid rheoleiddiedig drwy Orchymyn.
61.Mae'r darpariaethau hyn wedi eu seilio ar adrannau 28, 29 ac 31 o Ddeddf 1998 a'r rheoliadau a wnaed o dan y pwerau hyn.