Adran 45 i 47 - Newid categori ysgol etc.
62.Rhennir ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol (ac eithrio ysgolion meithrin a gynhelir) i gategorïau gwahanol a nodir yn adran 20 o Ddeddf 1998. Mae adrannau 45 i 47 (yn seiliedig ar adran 35 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 7 iddi) yn manylu ar bwy gaiff wneud cynigion i newid categori ysgol; mae’r grid isod yn crynhoi hyn (ystyr WG yw ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ystyr WR yw ysgol wirfoddol a reolir ac ystyr CLl yw corff llywodraethu).
Categori o ysgol | Gall ddod yn | Cynigydd |
---|---|---|
Ysgol gymunedol | WG neu WR | CLl |
Ysgol WG | Ysgol gymunedol neu WR | CLl |
WR | Ysgol gymunedol neu WG | CLl |
Ysgol sefydledig | Ysgol gymunedol, WG neu WR | CLl |
63.Ni chaiff ysgol newid categori i ddod yn ysgol sefydledig neu’n ysgol arbennig sefydledig. Ni chaiff ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol â chymeriad crefyddol newid categori i ddod yn ysgol gymunedol.
64.Er mwyn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir rhaid i gorff llywodraethu fodloni Gweinidogion Cymru y gall fodloni ei rwymedigaethau ariannol am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl i'r newid categori ddigwydd (adran 46).
65.Nid yw newid categori yn awdurdodi unrhyw newid yng nghymeriad crefyddol yr ysgol nac yn ei hawdurdodi i sefydlu corff sefydledig (fel y'i diffinnir yn adran 21 o Ddeddf 1998), nac i ymuno neu ymadael â chorff o'r fath.
66.Os yw ysgol i ddod yn ysgol gymunedol, rhaid bod y cytundebau trosglwyddo y ceir manylion amdanynt yn Atodlen 4 wedi eu gwneud.