Adran 48 - Cyhoeddi ac ymgynghori
67.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol bod ymgynghoriad ar gynigion trefniadaeth ysgol a'u bod yn cael eu cyhoeddi. Bydd y Cod yn nodi'r gofynion ar gyfer ymgynghori ac yn ymwneud â sut a phryd y mae cyhoeddi cynigion. Rhaid i gynigwyr gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad. Rhaid i'r cynigwyr anfon copïau o'r cynigion cyhoeddedig at Weinidogion Cymru, ac at yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol. Fodd bynnag, nid yw'r gofyniad i ymgynghori yn gymwys yn achos cynigion i derfynu ysgol fach, sef un sydd â llai na 10 disgybl cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth o'r mis Ionawr blaenorol (fe'i diffinnir yn adran 56). Hwn yw'r dyddiad y cynhelir y Cyfrifiad Blynyddol Ysgolion (ac felly, bydd modd gwybod nifer y disgyblion sydd mewn ysgol ar y dyddiad hwnnw).