Paragraff 1 – Yr Archwilydd Cyffredinol blaenorol i barhau yn Archwilydd Cyffredinol
93.Golyga paragraff 1 fod person, os yw’n dal swydd ACC ar y 'diwrnod penodedig', i'w drin ar y diwrnod hwnnw ac wedi hynny fel pe bai wedi cael ei benodi o dan Ran 1 o’r Ddeddf. Bydd hyn yn sicrhau parhad rhwng y gyfundrefn statudol sydd eisoes yn bodoli a'r gyfundrefn statudol newydd o dan y Ddeddf hon o ran ACC.
94.Diffinnir y term ‘diwrnod penodedig’ ym mharagraff 1(5), a'i ystyr yw'r diwrnod y daw'r paragraff hwn i rym.
95.Mae paragraff 1(2)(b) yn darparu mai cyfnod swydd ACC, os ydyw yn y swydd ar y diwrnod penodedig, fydd wyth mlynedd namyn unrhyw gyfnod o amser y bu’n ACC cyn y diwrnod penodedig. Canlyniad hyn yw y caiff y person hwnnw, os mai ef neu hi yw’r ACC cyn y diwrnod penodedig ac os yw’n parhau i ddal y swydd honno ar y diwrnod penodedig, ei drin yn ACC fel pe bai wedi ei benodi o dan y Ddeddf hon. Os yw cyfnod swydd person yn gyfnod o wyth mlynedd (fel y mae’r Ddeddf yn ei ddarparu) ond ei fod eisoes wedi gwasanaethu am ddwy flynedd yn y swydd, yna bydd cyfnod y person hwnnw yn ACC yn cael ei leihau ar y diwrnod penodedig i gyfnod o chwe mlynedd.
96.Mae paragraff 1(3) yn darparu, yn yr achos hwn, fod trefniadau talu cydnabyddiaeth o dan adran 7 o'r Ddeddf i'w gwneud gan y Cynulliad (ar ôl ymgynghori â'r Prif Weinidog). Rhaid gwneud hyn cyn y diwrnod penodedig. Bydd hyn yn sicrhau bod y person sy'n dal swydd ACC yn ei dal ar y telerau a’r amodau a bennir yn unol â darpariaethau'r Ddeddf hon, gan gynnwys telerau yn ymwneud â thalu cydnabyddiaeth.