Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Atodlen 2

Rhan 1: Rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

357.Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn gwneud nifer o ddiwygiadau a diddymiadau mewn perthynas â Rhan 1 o’r Ddeddf.

358.Mae paragraffau 1 i 5 yn gwneud nifer o ddiwygiadau o ganlyniad i adrannau 16 a 23 o’r Ddeddf. Mae diwygiadau yn cael eu gwneud i Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Deddf 1949), Deddf Cefn Gwlad 1968 (Deddf 1968) a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, o ganlyniad i adran 16 o’r Ddeddf. Effaith y diwygiadau hyn yw tynnu ymaith bŵer CNC i wneud cytundebau rheoli tir o dan y Deddfau hyn, gan fod y pwerau hynny yn cael eu disodli yn awr gan y pŵer yn adran 16 o’r Ddeddf.

359.Mae paragraffau 1 i 5 o Atodlen 2 hefyd yn diwygio darpariaethau amrywiol sy’n cyfeirio at gytundebau a wneir o dan y pwerau blaenorol yn Neddf 1949, Deddf 1968 a Deddf 1981 fel eu bod yn cyfeirio yn lle hynny at gytundebau rheoli tir a wneir o dan adran 16 o’r Ddeddf.

360.Mae paragraff 2(2) yn diddymu adran 4 o Ddeddf 1968, er mwyn tynnu ymaith bŵer CNC i gynnal prosiectau neu gynlluniau arbrofol. Darperir pŵer ehangach i gynnal cynlluniau arbrofol erbyn hyn gan adran 23 o’r Ddeddf, sy’n rhoi adran newydd yn lle Adran 10C o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.

361.Mae paragraffau 6 i 9 yn diwygio nifer o Ddeddfau er mwyn cysylltu â darpariaethau perthnasol yn Rhan 1 o’r Ddeddf. Mae paragraff 6 yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995 er mwyn sicrhau ei bod yn ofynnol i awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol roi sylw i’r adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol ac unrhyw ddatganiad(au) ardal perthnasol wrth gyhoeddi, mabwysiadu neu adolygu cynlluniau rheoli o dan adran 66 o’r Ddeddf honno.

362.Mae paragraff 7 yn diwygio Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 er mwyn sicrhau bod rhaid i’r awdurdod lleol neu’r bwrdd cadwraeth perthnasol, wrth gyhoeddi, mabwysiadu neu adolygu cynllun rheoli o dan adran 89 o’r Ddeddf honno, roi sylw i’r adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol ac unrhyw ddatganiad ardal sy’n berthnasol i’r ardal o harddwch naturiol eithriadol, fel y bo’n briodol.

363.Mae paragraff 8 yn diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, er mwyn sicrhau bod rhaid ystyried y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol wrth lunio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac, wrth lunio Cynlluniau Datblygu Lleol, bod rhaid rhoi sylw i unrhyw ddatganiadau ardal sy’n berthnasol i’r Cynllun Datblygu Lleol hwnnw.

364.Mae paragraff 9 yn diwygio’r ddyletswydd yn adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 i awdurdodau cyhoeddus roi sylw i fioamrywiaeth, fel ei fod yn berthnasol yn unig i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac mewn perthynas â chyrff cyhoeddus eraill pan fônt yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Lloegr. Bydd adran 6 o’r Ddeddf yn gymwys, yn lle hynny, pan fo awdurdodau cyhoeddus ac eithrio Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru.

365.Mae is-baragraff (3) yn diddymu adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r cynefinoedd sydd o’r pwysigrwydd pennaf ar gyfer bioamrywiaeth yng Nghymru. Darperir ar gyfer y gofyniad hwn bellach gan adran 7 o’r Ddeddf. Mae amryw o ddiwygiadau eraill yn cael eu gwneud i Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn is-baragraff (4).

366.Mae paragraff 10 yn mewnosod paragraff newydd i adran 36(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y paragraff newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth baratoi asesiad llesiant lleol, ystyried datganiad neu ddatganiadau ardal a gyhoeddir o dan adran 10 o’r Ddeddf hon, sy’n ymwneud ag unrhyw ran o ardal awdurdod lleol. Mae is-baragraff (2) yn diweddaru’r diffiniad o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn Neddf 2015.

367.Mae paragraff 11 yn diddymu paragraff 29 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru). Roedd paragraff 29 yn diwygio’r diffiniad o awdurdod cyhoeddus yn adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Mae adran 6 o’r Ddeddf yn diddymu adran 40 o’r Ddeddf honno, o ran swyddogaethau awdurdodau cyhoeddus mewn perthynas â Chymru, felly nid yw paragraff 29 yn cael unrhyw effaith.

Rhan 2: Codi taliadau am fagiau siopa

368.Mae paragraffau 10 ac 11 o Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 a Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, sy’n cael yr effaith o ddatgymhwyso, mewn perthynas â Chymru, y darpariaethau ynghylch bagiau siopa untro yn Atodlen 6 o Ddeddf 2008.

Rhan 3: Casglu a gwaredu gwastraff

369.Yn Rhan 3 o Atodlen 2, mae paragraff 14 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, o ganlyniad i fewnosod adran 45AA newydd. Effaith is-baragraff (2) yw gwneud adran 45A o’r Ddeddf honno yn gymwys i Loegr yn unig, ac mae is-baragraff (3) yn diddymu adran 45B.

370.Mae paragraff 15 yn diddymu adran 2 o Ddeddf Ailgylchu Gwastraff Cartrefi 2003, a oedd yn mewnosod adran 45B i Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

371.Mae paragraff 16 yn diddymu darpariaeth drosiannol yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n ymwneud ag adran 45B o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

372.Mae paragraff 17 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, o ganlyniad i fewnosod adran 9A newydd o’r Mesur.

Rhan 4: Pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol

373.Mae adran 82(3) a Rhan 4 o Atodlen 2 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddiweddaru deddfwriaeth sy’n cynnwys cyfeiriadau at Bwyllgorau Llifogydd ac Arfordirol Rhanbarthol yng Nghymru. Mae’r diwygiadau’n adlewyrchu’r ffaith bod Rheoli Perygl Llifogydd Cymru (y pwyllgor llifogydd ac arfordirol rhanbarthol ar gyfer Cymru) wedi ei ddiddymu ac wedi’i ddisodli gan y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Rhan 5: Is-ddeddfau

374.Yn Rhan 4 o Atodlen 2, mae paragraffau 26 a 27 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a Deddf Cefn Gwlad 1968. Mae’r ddwy Ddeddf hon yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau CNC o ran gwneud is-ddeddfau.

375.Yn Rhan 4 o Atodlen 2, mae paragraff 28 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 er mwyn cael gwared ar yr holl gyfeiriadau at Gyngor Cefn Gwlad Cymru a rhoi cyfeiriadau at CNC yn eu lle.

376.Mae is-baragraff 2 yn gwneud hynny yn yr adran sy’n diffinio pa gyrff sy’n awdurdodau deddfwriaethol ac sydd â’r pŵer i wneud is-ddeddfau at ddibenion y Ddeddf. Mae is-baragraffau 3 a 4 yn gwneud hynny mewn adrannau sy’n ymwneud â’r gweithdrefnau a’r trefniadau ffurfiol ar gyfer gwneud is-ddeddfau.

377.Mae is-baragraff 5 yn diddymu paragraff 11 o Atodlen 2 i’r Ddeddf mewn perthynas â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources