Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Atodlen 1 – Codi Taliadau am Fagiau Siopa: Sancsiynau Sifil

328.Cyflwynir yr Atodlen hon gan adran 61.

Sancsiynau sifil

329.Mae paragraff 1 yn darparu y caiff y rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth y gallai person sy’n torri’r rheoliadau fod yn agored i sancsiynau sifil. Mae is-baragraff (3) yn darparu y caiff sancsiynau sifil fod ar ffurf cosbau ariannol penodedig (a ddiffinnir ym mharagraff 2(3)) a gofynion yn ôl disgresiwn (a ddiffinnir ym mharagraff 4(3)).

Cosbau ariannol penodedig

330.Mae paragraff 2 yn darparu y caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr osod cosb ariannol benodedig nad yw’n fwy na £5,000 ar unrhyw berson sy’n torri’r rheoliadau. Dim ond mewn achosion pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y rheoliadau wedi eu torri y caniateir rhoi hysbysiadau sy’n gosod cosbau ariannol penodedig.

Cosbau ariannol penodedig: y weithdrefn

331.Mae paragraff 3 yn darparu, pan fo gan weinyddwyr y pŵer i roi hysbysiadau cosbau ariannol penodedig, fod yn rhaid i’r rheoliadau nodi’r weithdrefn fel y’i nodir yn y paragraff hwn.

332.Mae is-baragraff (1)(a) yn darparu bod rhaid i weinyddwr roi ‘hysbysiad o fwriad’ yn gyntaf cyn y gall osod cosb. Rhaid i’r hysbysiad roi’r cyfle i’r person sy’n ei gael dalu’r gosb neu wneud sylwadau neu wrthwynebiadau o fewn cyfnod penodedig, na ddylai fod yn fwy na 28 o ddiwrnodau yn y ddau achos, i’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad (gweler is-baragraffau (2)(e) ac (f)). Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a nodir yn is-baragraffau (2)(a) i (f).

333.O dan is-baragraff (1)(b) caiff y person y rhoddir hysbysiad iddo ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb drwy wneud taliad a gaiff fod yn llai na swm y gosb neu’n gyfwerth ag ef. Byddai hynny’n caniatáu i’r gweinyddwr gynnig gostyngiad am dalu’n gynnar. Os gwneir taliad ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.

334.O dan is-baragraff (1)(c) caiff y person y rhoddir hysbysiad iddo wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig yn erbyn y gosb. Ar ddiwedd y cyfnod penodedig mae’r gweinyddwr yn penderfynu, ar ôl ystyried y sylwadau neu’r gwrthwynebiadau, a yw am osod y gosb ariannol benodedig ai peidio. Os yw’n parhau i fod o’r farn bod cosb yn ddyledus caiff roi “hysbysiad terfynol”. Rhaid i’r hysbysiad terfynol gynnwys yr wybodaeth yn is-baragraffau (4)(a) i (f). Os yw’n penderfynu tynnu’r hysbysiad cosb yn ôl yna o dan baragraff 3(3) rhaid iddo egluro pam ei fod wedi penderfynu peidio â gosod y gosb.

335.Mae is-baragraff (5) yn nodi’r amgylchiadau hynny pan gaiff person y rhoddir hysbysiad iddo apelio yn erbyn hysbysiad terfynol (gweler paragraff 10 am y weithdrefn apelau).

Gofynion yn ôl disgresiwn

336.Mae paragraff 4 yn darparu y caiff y rheoliadau roi’r pŵer i weinyddwr osod, drwy hysbysiad, un gofyniad neu ragor (“gofynion yn ôl disgresiwn”) ar berson. Diffinnir “gofynion yn ôl disgresiwn” yn is-baragraff (3) fel:

  • talu cosb ariannol o swm y caiff y gweinyddwr benderfynu arno (“cosb ariannol amrywiadwy”);

  • cymryd y camau hynny y caiff gweinyddwr eu pennu o fewn y cyfnod hwnnw y caiff gweinyddwr ei bennu er mwyn sicrhau nad yw’r achos o beidio â chydymffurfio yn parhau neu’n digwydd eto (“gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol”).

337.Mae is-baragraff (2) yn pennu safon y prawf y mae’r rhaid i’r gweinyddwyr ei gymhwyso wrth benderfynu a yw’r rheoliadau wedi eu torri. O dan is-baragraff (5) rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod terfyn yn cael ei osod ar gosbau ariannol amrywiadwy, sef uchafswm a bennir yn y rheoliadau, neu a benderfynir yn unol â hwy.

Gofynion yn ôl disgresiwn: y weithdrefn

338.Mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer y weithdrefn y mae’n rhaid ei nodi mewn rheoliadau ac y mae’n rhaid i’r gweinyddwr ei dilyn wrth osod unrhyw ofyniad yn ôl disgresiwn. Rhaid i weinyddwr roi hysbysiad i’r person o’i fwriad i osod gofyniad yn ôl disgresiwn. Rhaid i’r hysbysiad nodi o fewn pa gyfnod y caiff person y rhoddir hysbysiad iddo wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynghylch y sancsiwn arfaethedig. Ni chaniateir i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer cyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau.

339.Mae is-baragraff (c) yn darparu bod rhaid i’r gweinyddwr, ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a yw am osod, tynnu’n ôl neu addasu’r gofyniad yn ôl disgresiwn neu osod gofyniad yn ôl disgresiwn arall yn ei le.

340.Pan fo’n gosod gofyniad yn ôl disgresiwn rhaid i weinyddwr gyflwyno hysbysiad terfynol. Rhaid i’r hysbysiad terfynol gynnwys yr wybodaeth a nodir yn is-adran (4), gan gynnwys y ffaith bod gan y person yr hawl i apelio yn erbyn y sancsiwn.

341.Mae is-baragraff (5) yn nodi ar ba sail y gellir apelio yn erbyn y gofyniad yn ôl disgresiwn, fan lleiaf.

Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi

342.Mae paragraff 6 yn darparu, pan nad yw person yn cydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol, y caiff y rheoliadau roi’r pŵer i weinyddwr osod cosb ariannol. Nid yw cosbau am beidio â chydymffurfio ar gael mewn achosion pan fo person wedi methu â thalu cosb ariannol amrywiadwy. Mae is-baragraff (2) yn darparu y caiff y rheoliadau naill ai bennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu y caniateir penderfynu’r swm yn unol â’r rheoliadau. Ar y llaw arall, mae is-baragraff (3) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu uchafswm y gosb y caiff gweinyddwr ei gosod neu’r uchafswm fel y’i penderfynir yn unol â’r rheoliadau. Mae is-baragraff (5) yn darparu bod rhaid i’r rheoliadau nodi ar ba seiliau y caniateir apelio yn erbyn cosb am beidio â chydymffurfio, a nodir y seiliau hyn yn (a) i (c).

Cyfuniad o sancsiynau

343.Mae paragraff 7 yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan gaiff rheoliadau bagiau siopa roi pwerau i weinyddwr osod y ddau fath o sancsiwn sifil (h.y. cosbau ariannol penodedig a gofynion yn ôl disgresiwn) mewn perthynas â’r un math o doriad o’r rheoliadau. Yn benodol, os yw’r rheoliadau’n rhoi’r pwerau hynny, rhaid iddynt sicrhau na chaiff y gweinyddwr roi hysbysiad o fwriad i osod un math o gosb sifil ar berson os yw eisoes wedi gosod y math arall o gosb sifil ar y person am yr un toriad.

Cosbau ariannol

344.Mae paragraff 8 yn darparu, pan fo’r rheoliadau’n darparu ar gyfer gosod sancsiynau sifil, y cânt hefyd wneud darpariaeth fel a nodir yn is-baragraff (a) i (c). Cânt gynnwys disgowntiau am dalu’n gynnar neu ddarpariaeth ar gyfer talu llog neu gosb ariannol arall am dalu’r gosb wreiddiol yn hwyr. Mae is-baragraff (1)(b) yn darparu na chaiff cyfanswm unrhyw gosb am dalu’n hwyr fod yn fwy na chyfanswm y gosb a osodwyd.

345.O dan is-baragraff (1)(c) caiff y rheoliadau gynnwys darpariaethau ar gyfer gorfodi’r cosbau. Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)(c) alluogi gweinyddwr i adennill cosb neu daliad arall y caniateir ei bennu yn y rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) fel dyled sifil drwy’r llysoedd sifil. Caiff y rheoliadau hefyd greu proses adennill symlach drwy drin y gosb fel petai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Adennill costau

346.Mae paragraff 9 yn darparu y caiff rheoliadau roi pwerau i’r gweinyddwr adennill costau, drwy hysbysiad, gan berson y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno. Mae is-baragraff (2) yn darparu y caiff y costau gynnwys costau ymchwilio, costau gweinyddu a chostau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol). O dan is-baragraff (3) pan gyflwynir hysbysiad ynghylch costau gallai fod yn ofynnol i’r gweinyddwr roi dadansoddiad manwl o’r costau y mae’n ceisio eu hadennill, ac nid yw’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn atebol i dalu unrhyw gostau yr aed iddynt yn ddiangen.

347.Mae is-baragraff (4) yn darparu y caiff y ddarpariaeth ar gyfer talu costau’r gweinyddwr a wneir gan y rheoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer adennill llog a chosbau am dalu’n hwyr o dan baragraff 8. Mae is-baragraff 3(d) yn darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y gweinyddwr o ran talu costau.

Apelau

348.Mae paragraff 10 yn cynnwys rhai darpariaethau gweithdrefnol ar gyfer apelau yn erbyn cosbau sifil. Mae’n darparu’n benodol bod rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod yr apelau i’w gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p.15)), neu dribiwnlys arall a grëir o dan ddeddfiad, wrando’r apêl. Mae rheoliad 21 o Reoliadau 2010 yn darparu bod apelau yn erbyn sancsiynau sifil i’w cyflwyno i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer gosod sancsiynau sifil

349.Mae paragraff 11 yn darparu y caiff y rheoliadau roi’r pŵer i weinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd sancsiwn sifil arno. Byddai hysbysiad o’r fath yn ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y gosodwyd sancsiwn, yn ogystal â’r wybodaeth arall honno y caniateir ei phennu yn y rheoliadau, a thalu am hynny ei hun. Os yw’r person yn methu â chyhoeddi’r hysbysiad yn ôl y gofyn, caiff y rheoliadau ddarparu i’r gweinyddwr gyhoeddi’r hysbysiad ac adennill y costau oddi wrth y person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Personau sy’n atebol i sancsiynau sifil

350.Mae paragraff 12 yn darparu y caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i swyddogion corff corfforaethol a phartneriaid o fewn partneriaeth fod yn atebol i sancsiynau sifil.

Canllawiau ynghylch defnyddio pwerau i osod sancsiynau sifil ac adennill costau

351.Mae paragraff 13 yn darparu, pan fo gweinyddwr i gael y pŵer i osod sancsiynau sifil, bod dyletswydd gyfatebol i fod ar y gweinyddwr i gyhoeddi canllawiau sy’n cynnwys gwybodaeth benodol ynghylch sut y bydd yn defnyddio ei bwerau sancsiynau sifil, gan gynnwys manylion ynghylch cosbau ariannol penodedig a gofynion yn ôl disgresiwn megis: pryd y maent yn debygol o gael eu gosod, sut y penderfynir ar gosbau penodedig ac amrywiadwy, sut y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd ac effaith rhyddhad ar hawliau i apelio.

Cyhoeddi camau gorfodi

352.Mae paragraff 14 yn darparu bod rhaid i reoliadau sy’n darparu ar gyfer sancsiynau sifil sicrhau bod y gweinyddwr yn cyhoeddi adroddiadau ar y defnydd o sancsiynau sifil.

Cydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddio

353.Mae paragraff 15 yn darparu na chaniateir i bwerau sancsiynau sifil gael eu rhoi i weinyddwr mewn rheoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y gweinyddwr yn cydymffurfio â’r egwyddorion gwell rheoleiddio a nodir ym mharagraffau (a) a (b).

Adolygu

354.Mae paragraff 16 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r modd y mae’r darpariaethau sancsiynau sifil a nodir yn y rheoliadau yn gweithredu. Rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl 1 Hydref 2017, a rhaid cynnal adolygiadau dilynol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhaliwyd yr adolygiad blaenorol. Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Atal dros dro

355.Mae paragraff 17 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru atal dros dro bwerau gweinyddwr i osod sancsiynau sifil o dan amgylchiadau penodol drwy roi cyfarwyddyd i’r gweinyddwr. Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cyfarwyddydau o’r fath. Cyn rhoi cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r gweinyddwr a’r personau eraill hynny sy’n briodol yn eu barn hwy. Rhaid i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’u dwyn i sylw’r rheini y maent yn debygol o effeithio arnynt.

Talu cosbau i Gronfa Gyfunol Cymru

356.Mae paragraff 18 yn darparu i arian a dderbynnir o gosbau fynd i Gronfa Gyfunol Cymru a sefydlwyd o dan adran 117 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. I’r gronfa hon y telir arian cyhoeddus a ddyrennir i’r sefydliadau datganoledig yng Nghymru gan Lywodraeth y DU ynghyd ag arian a dderbynnir o ffynonellau eraill.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources