Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Rhan 4 – Casglu a Gwaredu Gwastraff

243.Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn ymwneud â chasglu a gwaredu gwastraff, ac mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol gwahanu gwastraff yn y tarddle a’i gasglu ar wahân, gwahardd llosgi gwastraff a gwahardd gwaredu gwastraff bwyd o fangreoedd annomestig i garthffosydd. Diben y darpariaethau yw hybu rhagor o wahanu ar wahanol fathau o wastraff, a gwahardd dulliau penodol o waredu mathau adferadwy o wastraff.

Adran 65 – Gofynion sy’n ymwneud â chasglu ar wahân etc. wastraff

244.Mae adran 45 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p.43), yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol Cymru drefnu i gasglu gwastraff aelwydydd sy’n cael ei gynhyrchu yn eu hardaloedd, yn ogystal â gwastraff masnachol, pan wneir cais am hynny. Mae’r awdurdod lleol naill ai’n cyflawni’r swyddogaeth hon gan ddefnyddio’i adnoddau ei hun, neu’n trefnu bod contractwr preifat yn cyflawni’r swyddogaeth ar ei ran. Caiff gwastraff masnachol a diwydiannol nad yw’n dod o fewn dyletswyddau’r awdurdod lleol yn adran 45 ei gasglu gan gontractwyr preifat drwy gontract unigol â’r sawl sy’n cynhyrchu’r gwastraff. Mae’r Ddeddf yn cyfeirio at wastraff aelwydydd, masnachol a diwydiannol, gyda’i gilydd, fel “gwastraff a reolir”(1).

245.Yn ychwanegol at ofynion adran 45 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, rhaid i gasglwyr gwastraff gydymffurfio â gofynion rheoliadau 13 a 14 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 [O.S. 2011/988], sy’n trosi’n rhannol Gyfarwyddeb yr UE 2008/98/EC (y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff). Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gasglwyr gwastraff, o 1 Ionawr 2015 ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol, gasglu papur, metel, plastig a gwydr ar wahân, o leiaf, a chadw’r deunyddiau hynny ar wahân ar ôl eu casglu.

246.A hyn yn y cefndir, mae adran 65 yn mewnosod adran 45AA newydd (“Wales: separate collection etc. of waste”) yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Diben y darpariaethau yn yr adran newydd yw rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ymestyn y gwahanol fathau o wastraff sydd i’w casglu ar wahân, a phennu pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd i sicrhau bod rhagor o wahanol fathau o wastraff yn cael eu gwahanu.

247.Yn adran 45AA, mae is-adrannau (1) a (2) yn ymwneud â chasglu gwahanol ddeunyddiau gwastraff ar wahân. Mae is-adran (1) yn gymwys i awdurdodau lleol sy’n arfer eu swyddogaethau o dan adran 45, i wneud trefniadau ar gyfer casglu gwastraff a reolir yn eu hardal, er enghraifft, gyda chontractwr preifat. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sicrhau bod gwastraff yn cael ei gasglu o dan y trefniant mewn modd sy’n gyson â’r gofynion gwahanu perthnasol.

248.Mae is-adran (6) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu gofynion o ran gwahanu mewn rheoliadau, ac mae is-adran (7) yn rhoi pŵer cysylltiedig i bennu’r amgylchiadau pan fo gofynion o’r fath yn gymwys. Diffinnir natur y gofynion o ran gwahanu yn is-adran (6). Er enghraifft, caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau pa ddeunyddiau y dylid eu cyflwyno a’u casglu ar wahân, a sut y dylid cadw’r gwahanol fathau o wastraff ar wahân i’w gilydd ar ôl eu casglu. Gallai hyn gynnwys pennu lefel wahanu ar gyfer gwahanol ddeunyddiau gwastraff a all fod yn ofynnol o dan wahanol amgylchiadau.

249.Mae is-adran (2) yn cymhwyso dyletswydd gyfatebol i’r rheini sy’n casglu, yn cadw, yn trin neu’n cludo gwastraff a reolir mewn gwirionedd. Bwriedir i’r ddyletswydd i ymddwyn yn unol â gofynion gwahanu perthnasol fod yn gymwys yn ystod pob cam o’r gadwyn wastraff, o gynhyrchu’r gwastraff, i’w drin neu ei waredu’n derfynol. Bydd yn effeithio ar y rheini sy’n casglu, yn derbyn neu’n storio gwastraff, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn ogystal â’r cludwyr hynny sy’n cludo gwastraff, ac ailbroseswyr, fel ailgylchwyr, sy’n trin gwastraff. Nid yw’r ddyletswydd yn gymwys i unigolion nad ydynt yn gweithredu yng nghwrs busnes. Diffinnir “acting in the course of a business” (“gweithredu yng nghwrs busnes”) yn is-adran (3).

250.Mae is-adran (10)(a) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud y ddyletswydd yn is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i eithriadau. Bydd y pŵer hwn, ar y cyd â’r pŵer cyffredinol yn is-adran (11) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol ddibenion, achosion neu ardaloedd, yn caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried yr amrywiaeth eang o amgylchiadau pan fydd y darpariaethau hyn yn gymwys.

251.Mae is-adran (4) yn ategu’r gofynion yn is-adrannau (1) a (2), drwy osod dyletswydd i weithredu’n unol â gofynion gwahanu cymwys ar gategorïau penodol o gynhyrchwyr gwastraff, wrth gyflwyno gwastraff ar gyfer ei gasglu. Golyga’r ddarpariaeth hon ei bod yn ofynnol i feddianwyr mangreoedd, ac eithrio aelwydydd, gyflwyno gwastraff a reolir ar gyfer ei gasglu yn unol â gofynion gwahanu cymwys. Caiff gofynion o’r fath gynnwys, er enghraifft, bennu’r mathau o ddeunyddiau gwastraff y gellir eu hailgylchu y mae’n rhaid eu cyflwyno ar wahân ar gyfer eu casglu.

252.Mae is-adran (5) yn cynnwys eithriadau i’r ddyletswydd yn is-adran (4). Ni fydd y ddyletswydd yn gymwys i feddianwyr aelwydydd domestig na charafanau. Mae is-adran (10)(b) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-adran (4) yn gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau sy’n ychwanegol at y rheini yn is-adran (5). Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru addasu’r modd y cymhwysir y ddyletswydd yn is-adran (4) i newidiadau i’r polisi casglu gwastraff sy’n digwydd yn y dyfodol.

253.Mae is-adran (8) yn golygu bod methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (2) neu (4), heb esgus rhesymol, yn drosedd. Yn ôl is-adran (9), mae troseddau o’r fath yn droseddau neillffordd y gellir eu gwrando yn ddiannod yn Llys yr Ynadon neu ar dditiad yn Llys y Goron. Dirwy yw’r gosb yn dilyn collfarn. Nid oes terfyn ar swm y ddirwy y gellir ei gosod.

254.Mae is-adran (11) yn caniatáu i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau eraill i wneud rheoliadau o dan yr adran hon, wneud gofynion gwahanol ar gyfer amgylchiadau gwahanol, neu gymhwyso gofynion yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd daearyddol. Oherwydd ei natur caiff y pŵer hwn ei arfer ar y cyd ag arfer pwerau eraill o dan yr adran hon.

255.Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 45AB (Code of practice) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi, diwygio neu ddirymu cod ymarfer sy’n rhoi canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r dyletswyddau yn adran 45AA. Mae is-adran (3) yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, cyn dyroddi cod. Gallai hyn gynnwys CNC ac awdurdodau lleol Cymru, er enghraifft, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi’r cod, neu unrhyw ddiwygiad i god presennol, a’i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

256.Ni fyddai cod ymarfer o’r fath yn rhwymo person sy’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adran 45AA yn uniongyrchol. Ond mae is-adran (5) yn golygu bod y cod ymarfer yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achos llys, megis pan fo llys yn ystyried a gyflawnwyd trosedd o dan adran 45AA(8) ai peidio. Rhaid i’r llys ystyried y cod o ran unrhyw gwestiynau y mae’n berthnasol iddynt.

Adran 66 – Gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos

257.Mae adran 34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn gosod dyletswydd gofal eang ar unrhyw berson sy’n mewnforio, yn cynhyrchu, yn cario, yn cadw, yn trin neu’n gwaredu gwastraff a reolir, neu sydd â rheolaeth dros wastraff o’r fath, fel deliwr neu frocer, i fabwysiadu pob mesur rhesymol i atal, ymysg pethau eraill, unrhyw achos anghyfreithlon o waredu gwastraff gan berson arall, neu unrhyw achos o fynd yn groes i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010.

258.Mae adran 66 yn mewnosod adran 34D yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos gyhoeddus o fangreoedd annomestig yng Nghymru, yn is-adran (1). O dan y gwaharddiad, ni ddylai’r sawl sy’n meddiannu unrhyw fangre annomestig waredu gwastraff bwyd i garthffos gyhoeddus nac i unrhyw ddraen sy’n gollwng i garthffos gyhoeddus. Mae mangreoedd annomestig yn cynnwys mangreoedd busnes a’r sector cyhoeddus, ond nid ydynt yn cynnwys tai preifat, er enghraifft. Mae gweithredu is-adran (1) yn ddarostyngedig i bŵer Gweinidogion Cymru, yn is-adran (6)(a), i bennu’r amgylchiadau pan fo is-adran (1) yn gymwys mewn rheoliadau. Mae’r pŵer hwn, ar y cyd â’r pŵer cyffredinol i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol yn is-adran (7), yn caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried yr amrywiaeth eang o fangreoedd ac amgylchiadau pan fydd y gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd yn gymwys.

259.Mae is-adran (2) yn amlinellu eithriadau i’r gwaharddiad yn is-adran (1). Mae meddianwyr mangreoedd domestig a charafanau wedi’u heithrio. Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i bŵer Gweinidogion Cymru yn is-adran (6)(b), ar y cyd â’r pŵer yn is-adran (7), i wneud rheoliadau sy’n darparu bod is-adran (1) yn gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau sy’n ychwanegol at y rheini yn is-adran (2). Fel yn achos y pŵer yn is-adran (6)(a), bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ystyried y modd y mae amgylchiadau a pholisi’r llywodraeth yn newid.

260.Diffinnir gwastraff bwyd yn is-adran (5). Mae is-adran (6)(c) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r diffiniad o wastraff bwyd.

261.Mae is-adran (3) o adran 34D yn darparu y bydd methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad yn is-adran (1) heb esgus rhesymol yn drosedd, ac yn rhinwedd is-adran (4), gellir gwrando trosedd o’r fath yn ddiannod yn Llys yr Ynadon neu ar dditiad yn Llys y Goron. Os bydd y person sy’n cyflawni’r drosedd yn cael ei gollfarnu, bydd yn atebol i dalu dirwy ddiderfyn.

262.Mae adran 66(2) o’r Ddeddf yn gwneud diwygiad canlyniadol sy’n egluro nad yw cydsyniad elifion masnach a ddyroddir i feddiannydd gan yr ymgymerwyr carthffosiaeth o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn drech na’r gwaharddiad yn adran 34D ar waredu gwastraff bwyd i garthffos. Mae’n sicrhau y gall unrhyw beth sydd wedi ei eithrio o’r gwaharddiad yn adran 34D gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gael ei reoleiddio gan y drefn elifion masnach.

Adran 67 – Pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi

263.Mae adran 9 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 yn cynnwys darpariaethau sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio mewn ffordd arall, waredu mathau penodol o wastraff drwy dirlenwi. Dargyfeirio gwastraff adferadwy rhag cael ei waredu yw’r diben, a chynyddu ailgylchu yng Nghymru. Mae adran 67 o’r Ddeddf yn mewnosod adran 9A newydd yn y Mesur, sy’n cynnwys darpariaethau tebyg i’r rheini ar gyfer tirlenwi, ond sy’n ymwneud â gwahardd neu reoleiddio llosgi mathau penodol o wastraff.

264.Mae is-adran (1) o’r adran 9A newydd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu fel arall yn rheoleiddio llosgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru. Gellid defnyddio pŵer o’r fath i bennu mathau penodol o ddeunyddiau gwastraff y gellir eu hailgylchu, ac na ddylid eu llosgi, er enghraifft.

265.Mae is-adran (2) yn disgrifio mathau penodol o ddarpariaeth y gellir eu cynnwys mewn rheoliadau o dan is-adran (1). Mae hyn yn cynnwys pŵer i greu troseddau, i ragnodi cosbau ac i ddarparu ar gyfer awdurdodau gorfodi. Mae is-adran (2) hefyd yn cynnwys pŵer i ddiwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999, a fyddai’n cynnwys Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010, sy’n rheoleiddio trwyddedu a gweithredu cyfleusterau llosgi, ymysg pethau eraill.

266.Mae is-adran (3) yn diffinio llosgi at ddibenion adran 9A, ynghyd â “peiriant llosgi gwastraff”, a “peiriant cydlosgi gwastraff”. Felly mae’r pŵer yn is-adran (1) yn gymwys i beiriannau gan gynnwys y rheini sydd â’r prif ddiben o losgi gwastraff (llosgyddion gwastraff, er enghraifft) a’r rheini sy’n llosgi gwastraff i ddarparu ynni i bweru proses.

Adran 68 – Sancsiynau sifil

267.Mae is-adran (1) o adran 68 yn darparu bod y drefn o sancsiynau sifil a rheolaethau o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 ar gael mewn perthynas â throseddau a gyflawnir o dan adrannau 34D a 45AA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a fewnosodir gan adrannau 65 a 66. Gellir defnyddio’r sancsiynau hynny fel dull arall yn hytrach nag erlyn troseddau, os yw’r rheoleiddiwr yn fodlon bod trosedd wedi’i chyflawni.

268.Mae is-adrannau (2) i (8) yn diwygio adran 10 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, er mwyn dod â throseddau a gyflawnir o dan ddarpariaethau’r adran 9A newydd, yn ymwneud â llosgi, o dan y drefn sancsiynau sifil sydd eisoes yn ei lle yn y Mesur.

Adran 69 - Rheoliadau

269.Mae adran 69 yn diwygio adran 161 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn perthynas â rheoliadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan yr adrannau 45AA a 34D newydd o’r Ddeddf honno. Yn benodol, mae is-adran (4) yn mewnosod is-adran (2AA) newydd yn adran 161, sy’n darparu bod rheoliadau o dan yr adrannau newydd yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r diwygiadau i adran 161 hefyd yn diweddaru’r derminoleg drwy roi cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn lle’r cyfeiriadau at is-ddeddfwriaeth a oedd yn cael ei gwneud gan yr hen Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

270.Mae adran 69 hefyd yn diwygio adran 20 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 er mwyn darparu bod rheoliadau o dan yr adran 9A newydd o’r Mesur yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Adran 70 – Mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

271.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer gwneud diwygiadau pellach i ddeddfwriaeth bresennol o ganlyniad i ddarpariaethau’r Rhan hon o’r Ddeddf. Ceir manylion y diwygiadau yn Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.

1

Diffinnir y termau gwastraff aelwydydd, masnachol a diwydiannol a gwastraff a reolir (“household, commercial, industrial and controlled”) yn adran 75 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources