Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Rhan 5 – Pysgodfeydd ar gyfer Pysgod Cregyn

272.Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i adrannau 1 a 3 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (“Deddf 1967”) ac yn cyflwyno adrannau 5A i 5F newydd iddi. Prif bwrpas y newidiadau hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i wneud y ddarpariaeth angenrheidiol a chymryd y camau angenrheidiol mewn perthynas â gorchmynion pysgodfeydd cregyn, a roddir o dan adran 1 o Ddeddf 1967, at ddibenion gwarchod safleoedd morol Ewropeaidd ac atal niwed iddynt. Diffinnir safleoedd morol Ewropeaidd (“European marine sites”) gan yr adran 5F(2) newydd o Ddeddf 1967 (fel y’i mewnosodir gan adran 50 o’r Ddeddf hon) drwy gyfeirio at reoliad 8 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 sy’n cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (a ddynodir yn unol â Chyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (a ddynodir yn unol â Chyfarwyddeb Adar Gwyllt 79/409/EEC).

Adran 71 – Ceisiadau am orchmynion sy’n ymwneud â physgodfeydd

273.Mae adran 1 o Ddeddf 1967 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn sy’n rhoi hawl pysgodfa unigol neu hawl i reoleiddio pysgodfa. Mae gorchymyn pysgodfa unigol yn rhoi perchnogaeth o bysgod cregyn penodedig i’r person (a elwir yn grantî) y rhoddir y bysgodfa iddo. Mae gorchymyn rheoleiddio yn galluogi person i reoli gweithgarwch pysgota (ar gyfer pysgod cregyn penodedig) o fewn ardal benodedig, yn aml drwy roi trwyddedau pysgota i eraill.

274.Mae adran 1(2) o Ddeddf 1967 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn offeryn statudol, ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae’n rhaid gwneud cais am orchymyn pysgodfa gregyn unigol neu orchymyn rheoleiddio. Mae adran 71 o’r Ddeddf yn diwygio adran 1 o Ddeddf 1967 fel na fydd yn angenrheidiol mwyach gwneud offeryn statudol at y dibenion hyn. Bydd is-adran 1(2A) o Ddeddf 1967 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae’n rhaid gwneud cais am orchymyn pysgodfa gregyn, heb fod angen gwneud is-ddeddfwriaeth at y diben hwnnw.

275.Mae adran 71 o’r Ddeddf hefyd yn mewnosod adran 1(2B) newydd i Ddeddf 1967 sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n gwneud cais am orchymyn o dan adran 1 o Ddeddf 1967 ddarparu unrhyw wybodaeth (a allai gynnwys gwybodaeth amgylcheddol) sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn ystyried cais o’r fath.

276.Bydd y diwygiadau hyn i adran 1 o Ddeddf 1967 yn gymwys i unrhyw gais a wneir ar ôl i adran 71 o’r Ddeddf hon ddod i rym. Bydd unrhyw geisiadau o’r fath a dderbynnir cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu prosesu yn unol â geiriad blaenorol adran 1(2) o Ddeddf 1967.

Adran 72 – Gofyniad i gynnwys darpariaethau amgylcheddol mewn gorchmynion sy’n ymwneud â physgodfeydd

277.Mae adran 72 o’r Ddeddf yn mewnosod adran 5A newydd i Ddeddf 1967 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod gorchymyn a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1967 yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau yr ystyrir eu bod yn briodol er mwyn atal niwed i unrhyw safle morol Ewropeaidd neu i warchod yr amgylchedd morol fel arall. Diffinnir amgylchedd morol (“marine environment”) gan yr adran 5A(2) newydd. Darperir diffiniadau o safle morol Ewropeaidd (“European marine site”) a niwed (“harm”) at y dibenion hyn yn adran 5F(1) o Ddeddf 1967, a fewnosodir gan adran 75 o’r Ddeddf.

278.Ni fydd darpariaethau’r adran 5A newydd yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw orchymyn pysgodfa gregyn a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1967 cyn i Ran 5 o’r Ddeddf ddod i rym (gweler adran 5F(3) o Ddeddf 1967, a fewnosodir gan adran 75 o’r Ddeddf).

Adran 73 – Pŵer i gyflwyno hysbysiadau ar gyfer diogelu safleoedd morol Ewropeaidd

279.Mae adran 73 o’r Ddeddf yn mewnosod adrannau 5B, 5C a 5D newydd i Ddeddf 1967. Mae’r adrannau newydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi hysbysiad gwarchod safle ac ymdrin â materion cysylltiedig.

280.Er mwyn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru bwerau priodol i atal niwed (“harm”) (fel y’i diffinnir gan adran 5F(2) o Ddeddf 1967, a fewnosodir gan adran 75 o’r Ddeddf) i safle morol Ewropeaidd o ganlyniad i weithredu pysgodfa gregyn unigol neu un wedi ei rheoleiddio, mae adran 5B(1) yn darparu pŵer newydd i Weinidogion Cymru roi hysbysiad gwarchod safle i grantî y bysgodfa gregyn berthnasol o dan yr amgylchiadau a bennir.

281.Mae adran 5B(2) a (3) yn pennu’r gofynion y caniateir eu cynnwys mewn hysbysiad gwarchod safle. Mewn rhai achosion gallai hysbysiad gwarchod safle nodi’r gweithgareddau a gyflawnir fel rhan o’r gwaith o reoli’r bysgodfa a allai niweidio safle morol Ewropeaidd (neu ddod yn niweidiol iddo), a phennu wedi hynny pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd neu pa gamau y mae’n rhaid eu hosgoi er mwyn rhwystro’r niwed hwnnw rhag digwydd. Gall hysbysiad gwarchod safle gynnwys gofyniad i gymryd camau yn ogystal â gofyniad i ymatal rhag cymryd camau penodol.

282.Mae adran 5B(4) yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys yr hysbysiad gwarchod safle (a gaiff gynnwys darpariaeth y mae’n ofynnol i’r grantî gydymffurfio â hi y tu hwnt i gyfnod y bysgodfa unigol neu’r bysgodfa reoleiddio, gweler adran 5B(8) o Ddeddf 1967).

283.Mae adran 5B(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r grantî perthnasol cyn rhoi hysbysiad gwarchod safle oni bai eu bod o’r farn bod angen cymryd camau brys er mwyn atal niwed, ac mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob hysbysiad yn y fath fodd fel ei fod yn cael ei ddwyn i sylw pawb y mae’r hysbysiad yn debygol o effeithio arno.

284.Mae adran 5B(6) yn galluogi Gweinidogion Cymru i addasu neu ddileu Hysbysiad Gwarchod Safle.

285.Mae adran 5B(9) yn darparu bod y pwerau gorfodi a nodir yn adran 5(2) i (7) o Ddeddf 1967 (sy’n cynnwys pwerau i wneud ymholiadau ac arolygu ac i gael mynediad i dir penodol at y dibenion hynny etc.) ar gael at ddibenion yr adran 5B newydd (hynny yw y pŵer i roi hysbysiad gwarchod safle).

286.Mae is-adran 5C (a fewnosodir i Ddeddf 1967 gan adran 73 o’r Ddeddf) yn darparu dull apelio mewn perthynas â hysbysiadau gwarchod safle. Gellir cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Mae’r adran hon yn pennu’r penderfyniadau hynny y caniateir apelio yn eu herbyn a’r personau hynny a gaiff wneud apêl o’r fath neu fod yn barti i apêl o’r fath.

287.Mae adran 5C(4) yn galluogi’r Tribiwnlys Haen Gyntaf i atal neu addasu hysbysiad gwarchod safle tra bo’r apêl yn mynd rhagddo ac mae is-adran (5) yn galluogi’r Tribiwnlys i gadarnhau, i amrywio neu i ddileu’r hysbysiad perthnasol. Mae is-adran (6) yn galluogi’r Tribiwnlys i orchymyn Gweinidogion Cymru, pan fo’r Tribiwnlys yn amrywio neu’n dileu hysbysiad, i ddigolledu unrhyw barti i’r apêl sydd wedi dioddef colled neu niwed o ganlyniad i’r hysbysiad perthnasol.

288.Os yw grantî y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn methu â chydymffurfio â’i delerau, mae adran 5D (a fewnosodir i Ddeddf 1967 gan adran 73 o’r Ddeddf) yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd y camau angenrheidiol eu hunain ac adennill unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r camau hynny gan y grantî.

289.Ni fydd darpariaethau’r adrannau 5B, 5C a 5D newydd yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw orchymyn pysgod cregyn a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1967 cyn i Ran 5 o’r Ddeddf ddod i rym (gweler adran 5F(3) o Ddeddf 1967, a fewnosodir gan adran 75 o’r Ddeddf).

Adran 74 – Pŵer i amrywio neu ddirymu gorchmynion i ddiogelu safleoedd morol Ewropeaidd

290.Mae adran 74 o’r Ddeddf yn cyflwyno adran 5E newydd i Ddeddf 1967. Mae adran 5E(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i amrywio neu ddirymu gorchymyn pysgodfa unigol neu orchymyn rheoleiddio, o dan amgylchiadau penodol. Mae adran 5E(1) yn darparu nad yw’r pŵer yn is-adran (2) ar gael oni fo Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad gwarchod safle, nad yw wedi cael ei ddileu (gan Weinidogion Cymru neu’r Tribiwnlys Haen Gyntaf) ac nad oes apêl yn yr arfaeth mewn perthynas â’r hysbysiad hwnnw (ceir disgrifiad pellach o ystyr apêl sydd yn yr arfaeth (“pending appeal”) yn adran 5E(4)). Unwaith y bo’r amodau hynny wedi eu bodloni, mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i amrywio neu ddirymu’r gorchymyn pysgodfa unigol neu’r gorchymyn rheoleiddio perthnasol er mwyn adlewyrchu effaith yr hysbysiad gwarchod safle. Mae is-adran (3) yn nodi’r gofynion ymgynghori perthnasol.

291.Ni fydd darpariaethau adran 5E yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw orchymyn pysgodfa gregyn a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1967 cyn i Ran 5 o’r Ddeddf ddod i rym (gweler adran 5F(3) o Ddeddf 1967, a fewnosodir gan adran 75 o’r Ddeddf).

Adran 75 – Darpariaeth atodol

292.Mae adran 75 o’r Ddeddf yn mewnosod adran 5F yn Neddf 1967 sy’n diffinio termau amrywiol sy’n berthnasol i adrannau 5A i 5E a fewnosodir yn Neddf 1967 gan y Ddeddf hon, ac yn nodi i ba orchmynion pysgodfeydd y mae’r adrannau hynny yn gymwys.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources