Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Rhan 6 – Trwyddedu morol

293.Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Deddf 2009). Mae Rhan 4 o Ddeddf 2009 yn sefydlu trefn trwyddedu morol. Mae adran 65 o Ddeddf 2009 yn darparu na ellir cyflawni gweithgareddau morol y mae angen trwydded ar eu cyfer, ac eithrio yn unol â thrwydded forol a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu priodol. Mae adran 113(4) o’r Ddeddf honno’n diffinio’r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â Chymru a rhanbarth glannau Cymru. Gweler adran 322 o Ddeddf 2009 i gael y diffiniad o ranbarth glannau Cymru. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â Chymru a rhanbarth glannau Cymru, ac eithrio fel y darperir gan adran 113(4)(a) o Ddeddf 2009. Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau sy’n gymwys os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol.

294.Mae Rhan 4 o Ddeddf 2009 yn rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru fel yr awdurdod trwyddedu priodol. Mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys y pŵer i roi, i amrywio, i atal dros dro neu i ddirymu trwydded forol yn unol ag adrannau 71 a 72 o Ddeddf 2009. Bydd Rhan 6 o’r Ddeddf yn ategu’r pwerau codi tâl presennol sydd yn adran 67 o Ddeddf 2009 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru, os mai hwy yw’r awdurdod trwyddedu priodol, i godi ffioedd am amrywiaeth eang o geisiadau a gweithgareddau a gyflawnir ganddynt.

Adran 76 – Cyngor a chymorth mewn perthynas â thrwyddedu morol

295.Mae adran 76 yn mewnosod adran 67A yn Neddf 2009, sy’n galluogi’r awdurdod trwyddedu i ddarparu cyngor neu gymorth arall ac i adennill costau rhesymol am wneud hynny. Un enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer hwn yw darparu ac adennill costau yn ymwneud â rhoi cyngor a chymorth cyn gwneud cais.

Adran 77 – Ffioedd am fonitro, amrywio etc. drwyddedau morol

296.Mae adran 77 yn mewnosod adran 72A yn Neddf 2009. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu priodol, i godi ffioedd am fonitro gweithgareddau a awdurdodir gan drwydded forol ac i godi ffioedd am geisiadau i amrywio, i drosglwyddo, i atal dros dro neu i ddirymu trwydded forol. Caiff Gweinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu perthnasol, godi ffioedd hefyd at gostau rhesymol yr ymchwiliadau, yr arolygiadau neu’r profion sy’n angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn penderfynu ar geisiadau penodol. Caiff Gweinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu, wrthod bwrw ymlaen â chais os na chaiff ffioedd eu talu neu, ar gyfer ffioedd penodol, amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol drwy hysbysiad.

Adran 78 – Darpariaeth bellach ynghylch talu ffioedd

297.Mae adran 78 yn mewnosod adrannau 107A a 107B yn Neddf 2009, sy’n darparu ar gyfer trefniadau ymarferol penodol sy’n ymwneud â thalu ffioedd. Mae hyn yn cynnwys galluogi Gweinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu priodol, i godi blaendaliadau, i’w gwneud yn ofynnol talu ymlaen llaw ac i hepgor neu ostwng ffioedd. Mae gan Weinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu priodol, bwerau tebyg o ran peidio â thalu blaendaliadau ag ar gyfer peidio â thalu ffioedd o dan adran 77.

Adran 79 – Apelio yn erbyn amrywio etc drwydded forol am beidio â thalu ffi neu flaendal

298.Mae adran 79 yn diwygio adran 108 o Ddeddf 2009 (Apelau yn erbyn hysbysiadau) i ddarparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, fel y gall personau apelio yn erbyn hysbysiad a roddwyd am beidio â thalu ffi neu flaendal.

Adran 80 – Eithriadau rhag pŵer i ddirprwyo swyddogaethau awdurdod trwyddedu

299.Mae adran 80 yn diwygio adran 98(6) o Ddeddf 2009. Mae adran 98(1) o Ddeddf 2009 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddirprwyo swyddogaethau penodol awdurdod trwyddedu i berson arall. Mae adran 98(6) o Ddeddf 2009 yn rhestru’r swyddogaethau sydd wedi’u heithrio ac na ellir eu dirprwyo. Mae adran 80 o’r Ddeddf yn diwygio’r rhestr honno drwy ychwanegu’r swyddogaethau o wneud rheoliadau sy’n ymwneud â ffioedd a blaendaliadau, a roddwyd gan adrannau 77 a 78 o’r Ddeddf. O ganlyniad, ni ellir dirprwyo’r swyddogaethau hynny o wneud rheoliadau yn unol ag adran 98(1) o Ddeddf 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources