Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Rhan 7 – Amrywiol

Adran 81– Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

300.Mae adran 81 o’r Ddeddf yn mewnosod adrannau 26B - 26D i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Bydd yr adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu pwyllgor i ddarparu cyngor iddynt ar faterion yn ymwneud â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol neu’r Flood and Coastal Erosion Committee fydd enw’r pwyllgor.

301.Corff cynghori fydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a’i gylch gwaith fydd darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru e.e. llifogydd o ddŵr wyneb, prif afonydd, cyrsiau dŵr arferol, llifogydd arfordirol ac erydu arfordirol.

302.Mae adrannau 26C a 26D yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau, drwy reoliadau, ynglŷn ag aelodaeth a thrafodion y pwyllgor a thaliadau i aelodau a’r cadeirydd.

303.Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn disodli Rheoli Perygl Llifogydd Cymru, sef y pwyllgor llifogydd ac arfordirol rhanbarthol yng Nghymru a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae adran 81(2) yn diddymu Rheoli Perygl Llifogydd Cymru yn ffurfiol.

Adrannau 82 i 85 – Draenio tir

304.Mae adrannau 82 i 85 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion amrywiol sy’n ymwneud â draenio tir. Mae adrannau 82-84 yn ymwneud â byrddau draenio mewnol a’r modd y cânt eu cyllido. Sefydlir y byrddau hyn er mwyn arfer swyddogaethau sy’n gysylltiedig â draenio tir yn eu hardaloedd. Yn sgil newidiadau diweddar trosglwyddwyd holl swyddogaethau’r byrddau draenio mewnol yng Nghymru i CNC.

305.Mae adran 82 yn ymwneud â chyhoeddi hysbysiadau mewn perthynas â byrddau draenio mewnol. Mae adran 83 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r ffordd y caiff tir anamaethyddol ei brisio er mwyn dosrannau costau draenio yng nghyd-destun ardrethi draenio. Mae adran 84 yn ymwneud ag apelau yn erbyn ardollau arbennig.

306.Mae adran 85 yn ymwneud â phwerau Gweinidogion Cymru i sicrhau y cydymffurfir â gorchmynion y Tribiwnlys Tir Amaethyddol mewn perthynas â glanhau ffosydd.

Adran 82 – Diddymu gofynion i gyhoeddi mewn papurau newydd lleol etc.

307.Mae’r adran hon yn diddymu darpariaethau Deddf Draenio Tir 1991 sy’n pennu ar ba ffurf y mae’n rhaid cyhoeddi hysbysiadau sy’n ymwneud â byrddau draenio mewnol.

308.Mae’r darpariaethau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau gael eu cyhoeddi mewn un papur newydd lleol neu ragor. Mae’r hysbysiadau y mae’r gofynion yn gymwys iddynt yn ymdrin â materion megis addasu ardaloedd draenio mewnol a gwneud is-ddeddfau.

309.Ni fydd y newidiadau yn cael gwared ar y rhwymedigaeth i gyhoeddi hysbysiadau, ond byddant yn golygu na fydd yn ofynnol cyhoeddi mewn papur newydd lleol mwyach. Bydd hynny’n darparu ar gyfer trefniadau hysbysebu mwy hyblyg ac yn caniatáu i’r byrddau draenio mewnol ac CNC ddewis y dull mwyaf priodol o ddosbarthu hysbysiadau, gan gynnwys dulliau electronig.

Adran 83 – Prisio tir anamaethyddol er mwyn dosrannu costau draenio

310.Caiff costau bwrdd draenio mewnol nad ydynt yn cael eu diwallu gan gyllid grant eu diwallu yn rhannol gan ardrethi draenio y mae meddianwyr tir amaethyddol yn yr ardal yn eu talu, ac yn rhannol gan ardollau arbennig a godir ar yr awdurdodau lleol perthnasol (a rhaid iddynt hwy gynnwys yr ardollau yn eu cyllidebau Treth Gyngor). Pennir y gyfran o wariant bwrdd draenio mewnol a ddiwellir o’r ardrethi draenio a’r ardollau arbennig drwy gymharu cyfanswm gwerth y tir amaethyddol yn ei ardal â chyfanswm gwerth y tir anamaethyddol.

311.O ran tir amaethyddol, mae Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf Draenio Tir 1991 yn nodi’r dull prisio y mae’n rhaid ei ddefnyddio at y dibenion hyn. O ran tir anamaethyddol, mae adran 37(5) yn darparu, os cafodd y tir ei gynnwys ar restr ardrethu neu restr brisio ym 1990, bod ei werth i’w gyfrifo drwy gyfeirio at y gwerth a nodir ar y rhestr honno.

312.Nid yw adran 37(5) yn gyfredol bellach, ac nid yw rhai o’r rhestrau y mae’n cyfeirio atynt ar gael erbyn hyn. Mae adran 83 o’r Ddeddf yn diwygio adran 37 er mwyn rhoi darpariaethau newydd ar gyfer Cymru mewn perthynas â phrisio tir anamaethyddol yn lle is-adran (5).

313.Maent yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau sy’n nodi trefniadau newydd ar gyfer pennu gwerth tir anamaethyddol a ddefnyddir i gyfrifo ardrethi draenio ac ardollau arbennig.

Adran 84 – Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn ardollau arbennig

314.O ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau’r byrddau draenio mewnol yng Nghymru i CNC (ym mis Ebrill 2015), bydd CNC yn codi ardollau arbennig ar awdurdodau lleol er mwyn talu am ran o’r swyddogaethau hynny. Yn y gorffennol y byrddau draenio mewnol oedd yn codi’r ardollau hyn, ac aelodau a benodwyd gan awdurdodau lleol oedd mwyafrif aelodau’r bwrdd a oedd yn gosod yr ardoll.

315.Mae’r ddarpariaeth hon yn diwygio adran 75 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu trefn ar gyfer apelau gan awdurdodau lleol os ydynt o’r farn bod ardoll CNC yn afresymol.

316.Byddai’r apêl yn mynd at Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ardollau arbennig a godwyd gan CNC er mwyn talu costau yr aed iddynt wrth arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â draenio tir.

Adran 85 – Pŵer mynediad: cydymffurfio â gorchymyn i lanhau ffosydd etc.

317.Mae adran 85 o’r Ddeddf yn mewnosod is-adran (1A) yn adran 29 o Ddeddf Draenio Tir 1991, sy’n rhoi pŵer mynediad i Weinidogion Cymru neu bersonau a awdurdodir ganddynt.

318.Mae adran 28 o Ddeddf Draenio Tir 1991 yn darparu y caiff y Tribiwnlys Tir Amaethyddol roi gorchymyn i’w gwneud yn ofynnol i berchennog neu feddiannwr tir (yr ymatebydd) wneud gwaith ar ei dir er mwyn gwella draeniad ar dir cymydog. Os yw’r ymatebydd yn methu â chydymffurfio â’r gorchymyn caiff Gweinidogion Cymru, neu gorff draenio a awdurdodir ganddynt, ddibynnu ar y pŵer o dan adran 29 i gael mynediad i dir er mwyn gwneud y gwaith sy’n ofynnol gan y gorchymyn, a chânt adennill y gost o wneud hynny.

319.Mae adran 29(1A) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru neu unrhyw berson a awdurdodir ganddynt i gael mynediad i unrhyw dir pan fo’n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn gweld a gydymffurfiwyd â gorchymyn. Ni chaniateir arfer y pŵer oni bai bod tri mis wedi mynd heibio ers dyddiad y gorchymyn (neu unrhyw gyfnod hirach a bennir yn y gorchymyn) ac os oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chydymffurfiwyd â’r gorchymyn.

320.Mae adran 29(3), (4) a (5) o Ddeddf 1991 yn gymwys mewn perthynas â’r pŵer yn adran 29(1A). Mae adran 29(3) yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â phersonau eraill a chyfarpar ar y tir a gwarchod yn erbyn tresmaswyr; mae adran 29(4) yn darparu bod rhaid i’r person sy’n cael mynediad i’r tir roi dim llai na saith niwrnod o rybudd i’r meddiannwr; ac mae adran 29(5) yn gwneud darpariaeth ar gyfer digolledu os yw’r person sy’n arfer y pŵer yn achosi i unrhyw un arall gael unrhyw anaf.

321.Effaith adran 85(2) yw cymhwyso adran 29(1A) i unrhyw orchmynion a wneir o dan adran 28, gan gynnwys y rhai hynny a wnaed cyn i’r ddarpariaeth hon ddod i rym.

322.Fel arfer, byddai’r pŵer yn cael ei arfer pan fo’r person sy’n cael budd o orchymyn y Tribiwnlys Tir Amaethyddol yn cwyno i Lywodraeth Cymru fod ei dir yn parhau i ddioddef o ganlyniad i ddraeniad gwael am nad yw’r Ymatebydd wedi cydymffurfio â’r gorchymyn.

Adran 86 – Is-ddeddfau a wneir gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru

323.Mae Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 yn newid y gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau yng Nghymru ac yn galluogi gorfodi is-ddeddfau penodol drwy hysbysiadau cosbau penodedig. Mae’n gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdodau lleol a nifer o gyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Diddymwyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 a throsglwyddwyd ei swyddogaethau i CNC. Roedd hynny’n cael effaith o 1 Ebrill 2013. O ganlyniad, mae angen diwygio’r cyfeiriadau at Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn Neddf 2012 er mwyn cyfeirio at CNC. Nodir y diwygiadau hynny yn Rhan 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, a gyflwynir gan adran 86.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources