Adran 74 – Pŵer i amrywio neu ddirymu gorchmynion i ddiogelu safleoedd morol Ewropeaidd
290.Mae adran 74 o’r Ddeddf yn cyflwyno adran 5E newydd i Ddeddf 1967. Mae adran 5E(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i amrywio neu ddirymu gorchymyn pysgodfa unigol neu orchymyn rheoleiddio, o dan amgylchiadau penodol. Mae adran 5E(1) yn darparu nad yw’r pŵer yn is-adran (2) ar gael oni fo Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad gwarchod safle, nad yw wedi cael ei ddileu (gan Weinidogion Cymru neu’r Tribiwnlys Haen Gyntaf) ac nad oes apêl yn yr arfaeth mewn perthynas â’r hysbysiad hwnnw (ceir disgrifiad pellach o ystyr apêl sydd yn yr arfaeth (“pending appeal”) yn adran 5E(4)). Unwaith y bo’r amodau hynny wedi eu bodloni, mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i amrywio neu ddirymu’r gorchymyn pysgodfa unigol neu’r gorchymyn rheoleiddio perthnasol er mwyn adlewyrchu effaith yr hysbysiad gwarchod safle. Mae is-adran (3) yn nodi’r gofynion ymgynghori perthnasol.
291.Ni fydd darpariaethau adran 5E yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw orchymyn pysgodfa gregyn a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1967 cyn i Ran 5 o’r Ddeddf ddod i rym (gweler adran 5F(3) o Ddeddf 1967, a fewnosodir gan adran 75 o’r Ddeddf).