Adran 85 – Pŵer mynediad: cydymffurfio â gorchymyn i lanhau ffosydd etc.
317.Mae adran 85 o’r Ddeddf yn mewnosod is-adran (1A) yn adran 29 o Ddeddf Draenio Tir 1991, sy’n rhoi pŵer mynediad i Weinidogion Cymru neu bersonau a awdurdodir ganddynt.
318.Mae adran 28 o Ddeddf Draenio Tir 1991 yn darparu y caiff y Tribiwnlys Tir Amaethyddol roi gorchymyn i’w gwneud yn ofynnol i berchennog neu feddiannwr tir (yr ymatebydd) wneud gwaith ar ei dir er mwyn gwella draeniad ar dir cymydog. Os yw’r ymatebydd yn methu â chydymffurfio â’r gorchymyn caiff Gweinidogion Cymru, neu gorff draenio a awdurdodir ganddynt, ddibynnu ar y pŵer o dan adran 29 i gael mynediad i dir er mwyn gwneud y gwaith sy’n ofynnol gan y gorchymyn, a chânt adennill y gost o wneud hynny.
319.Mae adran 29(1A) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru neu unrhyw berson a awdurdodir ganddynt i gael mynediad i unrhyw dir pan fo’n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn gweld a gydymffurfiwyd â gorchymyn. Ni chaniateir arfer y pŵer oni bai bod tri mis wedi mynd heibio ers dyddiad y gorchymyn (neu unrhyw gyfnod hirach a bennir yn y gorchymyn) ac os oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chydymffurfiwyd â’r gorchymyn.
320.Mae adran 29(3), (4) a (5) o Ddeddf 1991 yn gymwys mewn perthynas â’r pŵer yn adran 29(1A). Mae adran 29(3) yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â phersonau eraill a chyfarpar ar y tir a gwarchod yn erbyn tresmaswyr; mae adran 29(4) yn darparu bod rhaid i’r person sy’n cael mynediad i’r tir roi dim llai na saith niwrnod o rybudd i’r meddiannwr; ac mae adran 29(5) yn gwneud darpariaeth ar gyfer digolledu os yw’r person sy’n arfer y pŵer yn achosi i unrhyw un arall gael unrhyw anaf.
321.Effaith adran 85(2) yw cymhwyso adran 29(1A) i unrhyw orchmynion a wneir o dan adran 28, gan gynnwys y rhai hynny a wnaed cyn i’r ddarpariaeth hon ddod i rym.
322.Fel arfer, byddai’r pŵer yn cael ei arfer pan fo’r person sy’n cael budd o orchymyn y Tribiwnlys Tir Amaethyddol yn cwyno i Lywodraeth Cymru fod ei dir yn parhau i ddioddef o ganlyniad i ddraeniad gwael am nad yw’r Ymatebydd wedi cydymffurfio â’r gorchymyn.