Gofynion yn ôl disgresiwn
336.Mae paragraff 4 yn darparu y caiff y rheoliadau roi’r pŵer i weinyddwr osod, drwy hysbysiad, un gofyniad neu ragor (“gofynion yn ôl disgresiwn”) ar berson. Diffinnir “gofynion yn ôl disgresiwn” yn is-baragraff (3) fel:
talu cosb ariannol o swm y caiff y gweinyddwr benderfynu arno (“cosb ariannol amrywiadwy”);
cymryd y camau hynny y caiff gweinyddwr eu pennu o fewn y cyfnod hwnnw y caiff gweinyddwr ei bennu er mwyn sicrhau nad yw’r achos o beidio â chydymffurfio yn parhau neu’n digwydd eto (“gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol”).
337.Mae is-baragraff (2) yn pennu safon y prawf y mae’r rhaid i’r gweinyddwyr ei gymhwyso wrth benderfynu a yw’r rheoliadau wedi eu torri. O dan is-baragraff (5) rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod terfyn yn cael ei osod ar gosbau ariannol amrywiadwy, sef uchafswm a bennir yn y rheoliadau, neu a benderfynir yn unol â hwy.