Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi
342.Mae paragraff 6 yn darparu, pan nad yw person yn cydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol, y caiff y rheoliadau roi’r pŵer i weinyddwr osod cosb ariannol. Nid yw cosbau am beidio â chydymffurfio ar gael mewn achosion pan fo person wedi methu â thalu cosb ariannol amrywiadwy. Mae is-baragraff (2) yn darparu y caiff y rheoliadau naill ai bennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu y caniateir penderfynu’r swm yn unol â’r rheoliadau. Ar y llaw arall, mae is-baragraff (3) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu uchafswm y gosb y caiff gweinyddwr ei gosod neu’r uchafswm fel y’i penderfynir yn unol â’r rheoliadau. Mae is-baragraff (5) yn darparu bod rhaid i’r rheoliadau nodi ar ba seiliau y caniateir apelio yn erbyn cosb am beidio â chydymffurfio, a nodir y seiliau hyn yn (a) i (c).