Adran 25B Dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio
23.Mae adran 25B yn cyflwyno dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru (pan fo hynny’n gymwys) i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio ac i hysbysu cleifion am y lefel honno. Dim ond i’r lleoliadau clinigol a bennir yn is-adran (3) o adran 25B y mae’r ddyletswydd hon yn gymwys.
24.Mae is-adran 25B(1) yn darparu, pan fo Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaethau nyrsio mewn lleoliad clinigol y mae’r adran hon yn gymwys iddo, fod rhaid iddo ddynodi person neu ddisgrifiad o berson, a adwaenir fel y “person dynodedig”. Rhaid i’r person dynodedig gyfrifo nifer y nyrsys sy’n briodol i ddarparu gofal i gleifion sy’n bodloni’r holl ofynion rhesymol yn y sefyllfa honno. Dyma’r “lefel staff nyrsio”. Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru gymryd pob cam rhesymol wedyn i gynnal y lefel honno a gwneud trefniadau i hysbysu cleifion am y lefel staff nyrsio.
25.Gallai Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG ddefnyddio dulliau amrywiol i hysbysu cleifion am y lefel staff nyrsio, megis hysbysiad yn y ward neu wybodaeth ar wefan ysbyty.
26.Mae is-adran (2) o adran 25B yn darparu bod rhaid i’r person dynodedig gyfrifo’r lefel staff nyrsio yn unol ag adran 25C.
27.Mae is-adrannau (3)(a) a (b) o adran 25B yn pennu’r mathau o leoliadau clinigol pan oedd y dyletswyddau i ddynodi person i gyfrifo lefel staff nyrsio, cymryd pob cam rhesymol i gynnal y lefel a dweud wrth gleifion amdani yn gymwys pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Wardiau meddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion a wardiau llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion yw’r wardiau hyn.
28.Mae adran 25B(3)(c) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i estyn y lleoliadau y mae’r dyletswyddau o dan adran 25B yn gymwys iddynt drwy wneud rheoliadau. Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw reoliadau o’r fath drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol h.y. rhaid i’r rheoliadau gael eu cymeradwyo’n ffurfiol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y gallant gael eu gwneud.