Adran 25C Lefelau staff nyrsio: y dull o gyfrifo
29.Mae adran 25C yn nodi’r dull y mae rhaid i berson dynodedig ei ddilyn wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio ac yn darparu manylion ynghylch sut y gellid defnyddio hyn. Adwaenir y dull hwn o gyfrifo yn gyffredin fel y “dull trionglog” yn y GIG yng Nghymru, oherwydd ei fod yn golygu ystyried tri math gwahanol o wybodaeth (a nodir yn (1)(a) a (b)).
30.Y cyntaf o’r rhain yw gwybodaeth sydd, ym marn broffesiynol y person sy’n mabwysiadu’r dull, yn berthnasol i’r lefel staff nyrsio. Byddai hyn yn cynnwys pethau megis y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd gan y staff, pa mor sâl yw’r cleifion ar y ward a faint o ofal y mae ei angen ar bob un ohonynt.
31.Yr ail yw cymhareb briodol a amcangyfrifir o nyrsys i gleifion sydd wedi ei chreu drwy ddefnyddio offeryn cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth. Mae amryw o offer cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gael. Mae offeryn aciwtedd yn un math, sy’n cofnodi newidiadau yn lefelau aciwtedd a dibyniaeth cleifion (gweler yr eirfa) dros gyfnod diffiniedig o amser. Mae wedi ei gynllunio i gadarnhau gofyniad staffio ar gyfartaledd dros amser, er mwyn helpu Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor; yn benodol, eu helpu i benderfynu faint o swyddi a ddylai fod ar ward.
32.Y trydydd math yw dangosyddion sensitif i nyrsys, a ddefnyddir i fesur i ba raddau y gwyddys bod llesiant cleifion yn arbennig o sensitif i’r ddarpariaeth o ofal gan nyrs. Maent yn cynnwys ffactorau megis nifer yr achosion o gwympo sydd wedi digwydd ar ward sy’n arwain at niwed, cleifion sydd wedi datblygu wlserau pwyso tra bônt yn yr ysbyty a chamgymeriadau sy’n arwain at niwed wrth roi meddyginiaeth i gleifion ar ward.
33.Mae is-adran 25C(2) yn caniatáu i’r person dynodedig gyfrifo lefelau staff nyrsio gwahanol ar gyfer adegau gwahanol a chan ddibynnu ar yr amodau y darperir gofal ynddynt. Mae hyn yn caniatáu i berson dynodedig gyfrifo lefel staff nyrsio sy’n ystyried nifer gwirioneddol y cleifion ar y ward a’r math a’r lefel o ofal sy’n ofynnol ar gyfer y cleifion hynny.
34.Wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio, gall y person dynodedig roi ystyriaeth i nifer y gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n darparu gofal i gleifion o dan oruchwyliaeth nyrs neu sy’n cyflawni dyletswyddau a ddirprwyir iddynt gan nyrs. Mae hyn yn bosibl gan fod is-adran (6)(a) o Adran 25A yn darparu, yn adrannau 25A i 25E yn gynhwysol, fod “references to a nurse providing care for patients include the provision of care by a person other than a nurse acting under the supervision of, or discharging duties delegated to the person by, a nurse”.