Adran 25D Lefelau staff nyrsio: canllawiau
35.Mae adran 25D yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch y dyletswyddau o dan adrannau 25B a 25C, a bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG y mae’r adrannau hynny’n gymwys iddynt roi sylw i’r canllawiau.
36.Mae is-adran (2) o adran 25D yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r materion y caiff y canllawiau bennu y dylai person dynodedig eu hystyried wrth arfer ei farn broffesiynol.
37.Er enghraifft, gallai’r canllawiau nodi ei bod yn berthnasol ystyried ffactorau megis a yw’r nyrsys yn rhai sydd newydd gymhwyso neu faint o flynyddoedd o brofiad cyffredinol neu arbenigol sydd ganddynt (gweler (2)(a)). Gallai hefyd ddarparu y dylai person dynodedig ystyried y gofal a ddarperir i gleifion gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill neu staff a fydd yn bresennol ar ward a’u cymwyseddau a’u profiad e.e. ffisiotherapyddion, meddygon dan hyfforddiant neu fyfyrwyr nyrsio.
38.Mae is-adran (3) o adran 25D yn darparu y caiff y canllawiau hefyd wneud darpariaeth ynghylch cynllunio’r gweithlu y caiff Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ymgymryd ag ef, er mwyn eu galluogi i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan adrannau 25B a 25C.
39.Mae is-adran (4) o adran 25D yn rhagnodi’r personau y mae rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â hwy cyn dyroddi canllawiau. Yn ei hanfod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau a sefydliadau y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt. Yn benodol, y personau a’r sefydliadau hyn yw Byrddau Iechyd Lleol ac unrhyw Ymddiriedolaeth GIG sydd o dan ddyletswydd i roi sylw i’r canllawiau; y sefydliadau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw ddarparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr ysbytai annibynnol yng Nghymru y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt; sefydliadau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw bersonau eraill (h.y. ac eithrio darparwyr cartrefi gofal ac ysbytai annibynnol), y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt ac unrhyw bersonau eraill y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt ac y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.