Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Adran 25E Lefelau staff nyrsio: adroddiadau

40.Mae adran 25E yn nodi’r gofynion adrodd ar gyfer y Ddeddf.

41.Mae is-adran (1) o adran 25E yn darparu bod rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol, ac unrhyw Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru y mae’r ddyletswydd i gyfrifo lefel staff nyrsio yn adran 25B yn gymwys iddi, ddarparu adroddiad ar lefelau staff nyrsio yn unol â darpariaethau adran 25E. Gall yr adroddiad hwn fod yn adroddiad ar wahân neu gellir ei ymgorffori mewn adroddiad ehangach.

42.Mae is-adran (2) o adran 25E yn darparu bod rhaid i adroddiad ar lefelau staff nyrsio gwmpasu cyfnod adrodd (“reporting period”) ac mae’n rhestru’r tri math penodol o wybodaeth y mae rhaid eu cwmpasu mewn adroddiad o’r fath sef: (a) i ba raddau y mae lefelau staff nyrsio wedi eu cynnal; (b) yr effaith y mae’r Bwrdd neu’r Ymddiriedolaeth yn ystyried bod peidio â chynnal lefelau staff nyrsio wedi ei chael ar y gofal a ddarperir i gleifion (mae is-adran (2)(b) yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o wybodaeth a allai gael eu cynnwys o dan y pennawd hwn) ac (c) unrhyw gamau a gymerir mewn ymateb i beidio â chynnal lefelau staff nyrsio.

43.Caiff Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG ddewis darparu gwybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad ar lefelau staff nyrsio.

44.Mae is-adran (3) o adran 25E yn darparu bod rhaid cyflwyno pob adroddiad ar lefelau staff nyrsio i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o diwrnodau ar ôl diwrnod olaf y cyfnod adrodd. Mae’r cyfnod adrodd wedi ei osod yn unol â darpariaethau is-adran (5).

45.Mae is-adran (4) o adran 25E yn darparu, ar ôl i bob cyfnod adrodd ddod i ben, fod rhaid i Weinidogion Cymru (a) llunio a chyhoeddi dogfen sy’n crynhoi cynnwys yr adroddiadau ar lefelau staff nyrsio a gyflwynir mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd hwnnw, a (b) gosod pob adroddiad a gyflwynir iddynt yn y cyfnod hwnnw gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

46.Mae gosod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn golygu bod rhaid rhoi copi o’r adroddiad i’r Swyddfa Gyflwyno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Swyddfa Gyflwyno yn cyhoeddi pob dogfen a osodir yn swyddogol gerbron y Cynulliad yn yr adran Dogfennau a Osodwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lle y gellir eu gweld a’u lawrlwytho.

47.Mae is-adran (5) o adran 25E yn sefydlu cylch adrodd tair blynedd ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar lefelau staff nyrsio. Y cyfnod adrodd cychwynnol (“initial reporting period”), h.y. y cyfnod cyntaf o dair blynedd y mae rhaid iddo fod yn destun adroddiad ar lefelau staff nyrsio, yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â chychwyn adran 25E. Mae pob cyfnod adrodd dilynol yn rhedeg am y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod olaf yn y cyfnod adrodd blaenorol.

48.Rhagwelir y bydd Gweinidogion Cymru yn dewis cychwyn adran 25E a thrwy hynny yn sbarduno dechrau’r “cyfnod adrodd cychwynnol” ar ddyddiad a fydd yn ei gysoni â chylchoedd cynllunio ac adrodd presennol yn y GIG yng Nghymru.

49.Ynghyd â’r gofyniad yn is-adran (3) i bob adroddiad gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod olaf y cyfnod adrodd, bydd Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG (pan fo’n gymwys) oll yn cyflwyno eu hadroddiadau ar lefelau staff nyrsio ar gyfer yr un cyfnod o dair blynedd yn ôl yr un terfyn amser.

50.Mae is-adran (6) o adran 25E yn diffinio Rheoliadau Cwynion (“Complaints Regulations”) at ddibenion y Ddeddf hon. Mae cwynion a wneir yn unol â’r Rheoliadau Cwynion ynghylch gofal a ddarperir i gleifion gan nyrsys yn enghraifft o’r wybodaeth a all gael ei chynnwys mewn adroddiad ar lefelau staff nyrsio o dan adran 25E(2)(b).

51.Mae adran 1(2) o’r Ddeddf yn diwygio adran 203(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Effaith y diwygiad yw gwneud rheoliadau o dan adran 25B(3)(c) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.

52.Mae adran 1(3) o’r Ddeddf yn diwygio adran 207 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ychwanegu “lefel staff nyrsio” at y mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio yn y Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources