Dosrannu teg a rhesymol
174.Pan roddir cydnabyddiaeth mewn cytundeb sy’n cynnwys mwy nag un trafodiad tir neu drafodiad tir a mater arall, mae paragraff 4 yn darparu bod y gydnabyddiaeth honno i’w dosrannu i’r trafodiad tir perthnasol (neu i bob un ohonynt) ar sail deg a rhesymol, a chaiff treth trafodiadau tir ei hasesu ar sail gwerth y gydnabyddiaeth a ddosrennir yn y fath fodd. Byddai hynny’n berthnasol, er enghraifft:
pan fo prynwr yn talu am y tir a’r adeilad ac yn talu swm arall am eitemau cludadwy (megis nwyddau gwynion, llenni etc.); a
pan fo contract yn cwmpasu gwerthiant tir a chytundeb i godi adeiladau ar y tir.