Adran 54 – Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth
98.Mae adran 54 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi dan ba amgylchiadau y bydd gan berson hawlogaeth i gredyd treth mewn perthynas â TGT, yn ddarostyngedig i fodloni a dilyn unrhyw amodau a gweithdrefnau a bennir.
99.Rhagwelir y caiff y pŵer hwn ei ddefnyddio, er enghraifft, i ganfod hawlogaeth i gredyd mewn sefyllfaoedd pan fo gweithredwr safle tirlenwi:
wedi anfonebu cwsmer yn briodol mewn perthynas â gwarediad trethadwy a wnaed;
wedi rhoi cyfrif am y gwarediad hwnnw, ac wedi talu TGT arno, i ACC yn y cyfamser; ac
yna wedi darganfod bod y cwsmer wedi mynd yn fethdalwr ac na ellir adennill y ddyled.
100.Yn yr enghraifft a amlinellir uchod, gallai’r rheoliadau nodi’r amodau y byddai’n ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am gredyd, gan gynnwys manylion y cofnodion neu’r dystiolaeth ategol sydd eu hangen. At hynny, gallai’r rheoliadau esbonio sut y byddai gweithredwr y safle tirlenwi yn mynd ati i hawlio’r credyd hwnnw: gallai hynny fod drwy ddidynnu’r swm o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar ffurflen dreth TGT gyfredol neu ar ffurflen o’r fath yn y dyfodol.
101.Caiff rheoliadau hefyd nodi dan ba amgylchiadau y caiff ACC wrthod hawliad am gredyd treth, a’r ffordd y gall person herio penderfyniad a wneir gan ACC ynghylch credyd treth. Caiff rheoliadau bennu cosbau a allai fod yn gymwys pe bai credyd yn cael ei hawlio mewn modd sy’n groes i’r gofynion a nodir yn y rheoliadau.