Adrannau 64 i 67 – Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru
134.Mae adran 64 yn darparu bod person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig yn agored i gosb o £300 (y “gosb gofrestru”). Pan fo person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy, heb fod yn gofrestredig, 10 o ddiwrnodau ar ôl dyroddi yr hysbysiad am y gosb gofrestru, bydd y person hwnnw yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad yw neu nad ydynt yn fwy na £60 am bob diwrnod y mae’n parhau i wneud hynny.
135.Mae adran 65 yn nodi eithriad i’r rheolau hyn. Pan fo person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig, gan dorri adran 35, mae’n darparu na fydd y person hwnnw yn agored i gosb o dan adran 64 os yw’n gallu bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y toriad.
136.Mae adran 66 yn darparu bod person sy’n methu â chydymffurfio ac unrhyw un o’r gofynion sy’n ymwneud â chofrestru a nodir yn is-adran (2) yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 yn ddarostyngedig i is-adran (2).