Adrannau 61 i 63 – Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunydd
130.Mae adran 61 yn darparu bod gweithredwr safle tirlenwi sy’n methu â phennu pwysau deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.
131.Pan fo gweithredwr safle tirlenwi yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth i wneud hynny o dan adran 21, neu’n cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwyir o dan adran 21, mae adran 62 yn darparu bod gweithredwr y safle tirlenwi yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.
132.Mae adran 63 yn caniatáu cyfuno asesiad o gosb ag asesiad treth, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i asesiad o gosb gael ei wneud o fewn 12 mis i’r adeg yr oedd ACC yn credu am y tro cyntaf fod y gweithredwr yn agored i gosb.
133.Mae’r cosbau hyn yn gymwys i weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn unig.