Adrannau 10 ac 11 – Estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd
15.Mae adrannau 10 ac 11 o'r Ddeddf yn galluogi personau 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymhwysol i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a gynhelir ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.
16.Mae adran 10 yn diwygio adran 12 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”), sy'n nodi pwy gaiff bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.
17.Mae adran 12(1)(a) o Ddeddf 2006 yn darparu mai’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd fydd y rhai a fyddai â hawl i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 10 o’r Ddeddf hon yn cynnal y sefyllfa honno, ond yn gostwng yr oedran y caiff person bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i 16 oed a hŷn. Yn yr un modd, mae adran 11 o'r Ddeddf hon yn estyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion tramor cymhwysol.
18.Mae'r diwygiadau i adran 12 o Ddeddf 2006 yn darparu bod gan berson hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd os bydd ganddo hawl, oni bai am yr anableddau cyfreithiol a ddilëwyd gan yr adran, i gofrestru ar y gofrestr etholiadol llywodraeth leol (gweler adran 4 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983). Yr anallu a ddilëir gan adran 12 yw diffyg gallu person 16 neu 17 oed a dinesydd tramor cymhwysol i bleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol.